Wil and the Welsh Black Cattle
Mae Wil and the Welsh Black Cattle yn plethu chwe chwedl Gymreig wrth adrodd stori Wil yn dianc o enau marwolaeth ac yn canfod cariad pur - ond dim cyn iddo golli ei ffortiwn ddwywaith. Yn rhan o'r stori mae hanes y Cymro oedd ar ddeheulaw Al Capone, sef Murray the Hump. Cyfrol sy'n ein cludo o Gymru i Lundain ac i UDA, gan blethu hanes y porthmyn â chwedlau Cymreig.