Dyma atgofion Elfyn Llwyd o'r digwyddiadau y bu'n rhan ohonynt yn ystod bron i chwarter canrif o wasanaeth fel Aelod Seneddol dros bobl Meirionnydd Nant Conwy a Dwyfor Meirionnydd.
Mae'n olrhain ei waith ar wahanol fesurau ac achosion a'i ymwneud hwyliog a heriol gydag aelodau, gwleidyddion a gweinidogion adnabyddus. Mae'n dadlennu digwyddiadau'r Tŷ gan gynnwys y broses o ddwyn achos uchelgyhuddo yn erbyn y Prif Weinidog, Tony Blair, a'i rôl yn rhan o Ymchwiliad Chilcot.
Ceir hanesion am deithiau i bob cwr o'r byd – o Chernobyl i wersylloedd Darfur, o garchardai yn yr Almaen, Denmarc a Norwy i un ymweliad cofiadwy ag Irac yn 2002 yng nghwmni Boris Johnson ymysg eraill.