Os Na Ddon Nhw (elyfr)
Wedi iddo fyw yn ddinod mewn tyddyn bychan gyda'i fam yng nghysgod atomfa niwclear am flynyddoedd, mae bywyd Cemlyn Owen ar fin cael ei droi ben i waered.
Ond nid o gyfeiriad yr atomfa y daw'r ynni ffrwydrol i hollti'r rhych y bu ynddi cyhyd. Gall merch fod yn fwy pwerus na'r un orsaf pan fo dyn mewn rhigol.
Dyma nofel gyfoes am Annest a Cemlyn, lle mae sgriptiau ffilm a naratif nofel yn gwau'n gelfydd i'w gilydd. Mae'n stori lawn hiwmor, ynghyd â themâu dwys, gan awdur sy'n gyfarwydd â chreu cymeriadau byw a gonest.