"LLenydda, Gwleidydda a Pherfformio" yw'r seithfed gyfrol yn y gyfres Astudiaethau Athronyddol. Ynddi ceir ysgrifau sy'n ymwneud â meysydd sydd yn ffinio ar athroniaeth neu sydd yn cynnig eu hunain i drafodaeth athronyddol, yn arbennig ym myd y celfyddydau a'r byd gwleidyddol.
Ceir ysgrifau sydd yn ymateb ac yn trafod testunau oesol a chyfredol. Bwrir golwg ar y cysylltiad rhwng barddoniaeth T.H. Parry-Williams ac athroniaeth; olrheinir tarddiad syniadol rhai o'r safbwyntiau a amlygwyd gan Jac Glan-y-Gors yn "Seren Tan Gwmmwl" a "Toriad y Dydd"; amlinellir agweddau ar sosialaeth sydd yn anhepgor i wleidyddiaeth asgell chwith yng Nghymru a thu hwnt; eir ar drywydd newyddion ffug; a dadansoddir ffenomenoleg a pherfformio mewn perthynas â'r Capel Cymraeg ac ystyrir y berthynas rhwng y digrifwr a'r gynulleidfa mewn perfformiad stand-up.
Ceir cyfraniadau gan Howard Williams, E. Gwynn Matthews, Huw L. Williams, Steven D. Edwards, Rhiannon M. Williams a Dafydd Huw Rees. Mae'r awduron wedi ysgrifennu mewn modd hygyrch i'r sawl sydd heb gefndir academaidd mewn athroniaeth, ond eto'n trafod gweddau ar eu pwnc fydd o ddiddordeb i arbenigwyr yn ogystal.