Dyma hunangofiant un o arloeswyr addysg drwy'r Gymraeg yng ngorllewin Cymru. Fel cyfarwyddwr addysg yn sir Aberteifi ac yna Dyfed bu'n dyst i'r newidiadau ieithyddol yn y Fro Gymraeg yn saithdegau ac wythdegau'r ganrif ddiwethaf yn sgil y mewnlifiad ac aeth ati i gryfhau'r polisiau iaith yn yr ysgolion. Bu'n rhaid iddo wynebu cryn elyniaeth gan garfanau fel Education First a chafodd ei gyhuddo gan aelod seneddol Caerfyrddin o fod yn "Stalinistaidd" ac o greu system o "apartheid" o fewn ysgolion.
Aeth ati hefyd i greu chwech o ysgolion uwchradd dwyieithog yn Nyfed yn wyneb peth gwrthwynebiad eto fel yn achos Penweddig yn Aberystwyth. Yn 1990 fe'i hapwyntiwyd yn Brif Weithredwr Dyfed, y sir fwyaf o ran maint yng Nghymru.
Ond ceir mwy na hynny yn y gyfrol – ceir disgrifiadau byw o'i blentyndod fel mab i lowr ym mhentref Gwauncaegurwen adeg y rhyfel ac o'i amser yn Aberystwyth, yn y fyddin, ac fel athro yn yr East End yn Llundain. Wedi ymddeol cyflawnodd nifer o swyddi, gan gynnwys Cyfarwyddwr Cymru a'r Byd, a bu'n cadeirio panelau'n trafod cwynion yn erbyn y Gwasanaeth Iechyd. Mae'n byw yn Llambed ac yn briod â Bethan Phillips, yr awdures a'r sgriptwraig deledu, sydd ysywaeth mewn cartref gofal erbyn hyn.