Adolygiadau
"Mae hiwmor ar ei ora pan mae'n seiliedig ar realiti - dyma lle mae Euron Griffith yn rhagori."
- Rhys Mwyn
"Tisho llyfr llawn dychymyg a chyffro? Hwn 'di'r gorau eleni!"
- Catrin Beard
Dyma waith gwreiddiol a hynod ddyfeisgar... Ces gymaint o flas arno, mae bywyd wedi mynd braidd yn llwm ers ei gwpla.
- Tony Bianchi
"Mae yma naws ffuglen pulp ond wedi ei gymysgu a ffantasi, dylanwad chwedlau o wahanol rannau o'r byd, sylwebaeth ar y byd gorllewinol a dogn o hiwmor eironig. Cymysgwch Dewi Prysor, Robin Llywelyn ac arddull tafod-mewn-boch Llwyd Owen efallai."
- Gwenan Mared, Cylchgrawn Barn
"Roedd nifer o wahanol haenau i'r cymeriadau....Mae rhinweddau amlwg i'r nofel - wedi ei mwynhau yn fawr!"
- Cylchgrawn Golwg
"Mae elfennau afreal, anghredadwy ac abswrd yn cyfuno â'r difyr, y diddorol a'r doniol i greu nofel hynod ddarllenadwy. Mae'r rhannau doniol yn gallu bod yn dywyll iawn, ond mae hynny'n gweddu'n berffaith i'r cynnwys. Llwyddodd Euron Griffith i dynnu'r holl elfennau amrywiol at ei gilydd yn grefftus gan greu cyfrol afaelgar, ddyfeisgar a darllenadwy iawn. Mwynhewch y darllen."
- Hefin Jones, Gwales
"Mae Tri Deg Tri yn sbort ac yn sbri, ac fe gaiff mwynhad amlwg yr awdur ei rannu'n hael â'r darllenydd. Ystrydeb yw dweud bod dyn yn edrych ymlaen at nofel nesaf awdur ond, yn yr achos hwn, mae'n wir bob gair."
- Jon Gower, O'r Pedwar Gwynt
"Mae Euron Griffith yn awdur hiwmor tywyll - wir wedi mwynhau'r nofel hon!"
- Bethan Mair, Prynhawn Da
"Mae'r nofel hon gan Euron Griffith yn hynod o afaelgar. Mae e yn ddyfeisgar, mae wedi ei sgwennu yn grefftus ac yn cynnwys elfen o hiwmor a dyfnder annisgwyl iawn. Mae yma arddull rhwydd a ffraeth ac mae'n hynod darllenadwy gyda elfen o releaeth hudol... Wedi llwyr fwynhau'r nofel!"
- Sioned Williams, Rhaglen Dewi Llwyd