"Does dim byd sy'n rhoi mwy o bleser i mi na tharo ar stori dda."
Mab tyddyn ar gyrion Cors Caron yn Nhregaron sydd bellach yn byw ym Mhontypridd yw Gwyn Griffiths. Mae'n awdur a newyddiadurwr adnabyddus ac mae ei hunangofiant yn hanes cyfnod - dyddiau heddychlon a ddilynwyd gan newidiadau mawr.
Gweithiodd i fudiad Urdd Gobaith Cymru, i bapur newydd wythnosol Y Cymro ac i BBC Cymru. Profodd newidiadau chwyldroadol ym mywyd Cymru, y Gymraeg a'r cyfryngau wrth i dechnoleg ddatblygu ac i'r we fyd-eang ddod yn fyw.
Mae'n briod â Gwen a mabwysiadodd y ddau bedwar o blant, gan gynnwys dau o dras gymysg. Arweiniodd hynny, yn ei dro, ar weithgarwch gyda'r mudiad gwrth-hiliaeth. Mae "Ar Drywydd Stori" yn adrodd hanes personol, gan gynnwys y diwrnod y canfu ei fod yn dioddef o ganser.
Fel awdur profiadol, mae Gwyn Griffiths yn gwybod sut i ddweud stori. Gwyr sut i gynnig bachyn i ennyn diddordeb y darllenydd a dweud ei ddweud mewn arddull ddifyr.