Doedd Erin ddim am symud i Blas Ceirios. Doedd bywyd ddim yn deg - roedd ganddi rieni boncyrs ac roedd rhyw ysbryd yn aflonyddu arni o hyd ac yn troi ei bywyd ben i waered. A fydd ei hofnau i gyd yn dod yn wir neu codi bwganod yn unig mae hi?
Mae "Codi Bwganod" yn son am fywyd ysgol diflas, perthynas merch a'i ffrindiau a'i rhieni, a pharot busneslyd o'r enw Sesil! Mae yma ddigon o hiwmor, deialog fywiog a chymeriadau diddorol ac anarferol iawn.
Gallwch ddisgwyl yr annisgwyl yn "Codi Bwganod"!
(Un o Gyfres yr Onnen - wyth nofel wedi eu hanelu at ddarlenwyr da 9 i 13 oed)