"Heddiw, o'r diwedd, rwyf am gychwyn ar y daith. Taith i ffeindio Meg, taith i ffeindio fi fy hunan hefyd..."
Pa un yw'r penderfyniad pwysicaf wnewch chi yn eich bywyd? Aros yng Nghymru, gwlad eich mebyd, 'ta mentro i diroedd newydd? Aros efo cariad diogel 'ta rhoi eich bryd ar rywbeth arall?
Dyna benbleth Mog. Penbleth sy'n dod i ran sawl un wrth gyrraedd canol oed. Mae un peth yn sicr: ddaw'r ateb ddim wrth olchi llestri yn swigod y sinc a phendroni am bethau bach a mawr y byd.
Yna, yn ddisymwth un diwrnod, daw rhywbeth i lenwi gorwel Mog, rhywbeth na all ei osgoi, ac mae'r dyfodol yn agor o'i flaen.