Cafodd Hilda Hunter ei geni yng Nghanolbarth Lloegr yn 1919. Dyma bortread o'i bywyd o'r cyfnod wedi iddi adael yr ysgol cyn yr Ail Ryfel Byd hyd at heddiw. Ar ol gyrfa fel cerddor a bywyd o waith ac astudiaeth yn Lloegr a Chymru, ymddeolodd i'r Amwythig, a daeth cyfle i wireddu breuddwyd a fu yng nghefn ei meddwl ers ei chyfnod yn Aberystwyth yn y pumdegau, sef dod yn fwy cyfarwydd a'r iaith Gymraeg.
Yn y flwyddyn 2000, gwelodd ei ffordd yn glir i astudio'r iaith Gymraeg o ddifrif. Yn ei geiriau ei hun: "Myfyriwr gydol oes ydw i. Po fwyaf astudiaf a darganfyddaf, mwyaf fy nghariad a'm parch tuag at fy nghyfeillion Cymreig, eu mamiaith a'u mamwlad."