Hanes y ganrif ddiwethaf mewn llun a gair, gan gynnwys dros gant o luniau gorau ffotograffydd enwoca'r cyfnod, Geoff Charles.
Geoff Charles yn catalogio'i luniau;
Brymbo: John Charles, tad Geoff;
Jane Elizabeth Charles, mam Geoff;
Gweithwyr ffwrnes yng ngwaith dur Brymbo;
Gweithwyr achub, trychineb Gresffordd;
Rhyfel: Verlie Blanche Charles, gwraig Geoff, a'i merch Janet;
Faciwîs yn cyrraedd gorsaf Drenewydd;
Tynnu rheiliau Plas Dinam i wneud arfau;
Tafarn y Queen's Head, Brymbo wedi ei chwalu gan fom;
'Home Guard', Penybont Fawr;
Plant a cipar yn astudio darnau o fom;
Gosod mygydau nwy wrth ei gilydd;
Janet Bennett-Evans yn aredig tir ger Llangurig;
Cerdded polyn dros Afon Hafren, Drenewydd;
David Lloyd George yng Nghaernarfon;
Gorymdaith angladd Lloyd George yn Llanystumdwy;
Y galarwyr wrth fedd Lloyd George;
Dymchwel gwaith tun Raven, Glanaman;
Hau yn y ffordd draddodiadol;
Recordio Noson Lawen yn Neuadd y Penrhyn, Bangor;
Mabolgampau'r Urdd, Bangor;
Teulu o sipsiwn ger y Bala;
Swper ar fferm datws, Penrhyn Gwyr;
Y plismon a'r rhosyn gwyn, Trefyclo;
Damwain trên ym Mhenmaen-mawr;
Carneddog a Catrin tu allan i'w cartref;
Yr Etifeddiaeth: John Roberts Williams a Wil Vaughan Jones, Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau;
Freddie Grant wrth lidiart cartref y bardd Cybi yn Eifionydd;
Dangos ffilmiau yn Rhydaman;
Y 'Countess' yn mynd trwy y Trallwng o Lanfair Caereinion;
Mab Geoff gyda giard trên y Trallwng;
Mewn Standard 8 newydd;
Mab Dylan Thomas, Colm, yn sgwrsio â gweithiwr ffordd;
Dathlu Gwyl Dewi yn Machynlleth;
Clinig, ysgol gynradd Dolgellau;
Jack Price gyda'i fulod yn Aberystwyth;
Dewi a Huw Evans yn godro'r fuwch, Llandderfel;
Rhian Wyn Jones mewn pasiant Nadolig yn ysgol gynradd Rhiwlas, Arfon;
Dau o'r disgyblion cyntaf yn ysgol Gymraeg y Rhyl;
Llyn y Fan Fach;
Aneurin Bevan yn annerch cyfarfod etholiad Llafur yng Nghorwen;
Ritchie Thomas ym melin wlân Penmachno;
Bob Owen Croesor a'i wraig Nel;
Y Fonesig Amy a Syr T.H.Parry Williams, Aberystwyth;
T.E.Nicholas a D.J.Williams mewn rali CND yn Aberystwyth;
Dyddiau olaf Caerhilion, Aberhosan wedi iddo'i werthu i'r Comisiwn Coedwigo;
Manffri Wood, cipar, y Bala;
Mr Edwards o'r Brithdir, 'Grand Master' Seiri Rhyddion Dolgellau;
Dic Jones, y bardd yn 21 oed;
Billy Meredith, 76 oed, yn cychwyn gêm bêl-droed yn Nyffryn Ceiriog;
Oes Aur: Trychineb ras geir Le Mans pan laddwyd 80 o bobl;
HMS Conway, ar greigiau yn Afon Menai;
Achub y Parchedig J.W.Jones, ficer Llanelltud o'i ddamwain car;
Agor grid gwartheg cyntaf Prydain, ar y Berwyn;
Cwryglau o Abercych a Chilgerran ar Afon Tafwys fel rhan o ddathliadau Gwyl Dewi;
Y 'postmon ceffyl' olaf, ardal Soar y Mynydd;
Lettice Rees, 74 oed ac yn dal i gasglu cocos yng Nghefn Sidan;
Wil Sam yn cludo plant i'r ysgol cyn troi'n sgwennwr amser llawn;
Archwilio'r to yng ngwaith aur Cloga ger y Bont-ddu;
Bois yr hewl, Pontardawe;
Dynion ffordd, Bodegroes ger Pwllheli;
Y cerflunydd Jonah Jones a 'Sioni Winwns' o Lydaw yn rhannu adnoddau, Tremadog;
Siop y barbwr, Dolgellau;
Bertrand Russell yn cyfarch torf o 700 yn ei gartref ger Porthmadog;
Ingrid Bergman yn ffilmio Inn of the Sixth Happiness, Beddgelert;
Ryan Davies a Charles Williams;
Tryweryn cyn y dilyw: Euron ac Eurgain Prysor Jones yng nghae Tynybont, Capel Celyn;
Thomas Jones, bardd gwlad a'i fab John Abel, adroddwr;
Cneifio olaf Capel Celyn;
Paned ar y bws, wrth i'r pentrefwyr fynd â'u protest i Lerpwl;
Cyrraedd y ddinas, a Gwynfor Evans yn eu harwain;
Y brotestwraig ieuengaf, Eurgain Prysor Jones;
Y Parchedig Gerallt Jones, a'i boster yn fri o'r galon;
Wythnos olaf yr ysgol;
Deiniol Prysor Jones;
Y gwaith yn mynd rhagddo;
Plismona oedfa olaf y capel;
Cynullleidfa datgorffori'r capel;
Deiniol Prysor Jones ac adfeilion y pwlpud;
Arwerthiant fferm Gwerngenau;
John William a Mabel Evans yn cau drws Y Garnedd Lwyd am y tro olaf;
Teuluoedd Cae Fadog a'r Gelli yn ffarwelio â'u cwm;
Agoriad swyddogol y gronfa ddwr;
Croeso cynnes y dorf i'r gwahoddedigion;
Pont Trefechan: Protest dorfol gyntaf Cymdeithas yr Iaith, Aberystwyth;
Protestwraig a gwympodd yn ystod y gwrthdaro;
Gosod posteri ar Swyddfa Bost Aberystwyth;
Bws o fyfyrwyr bangor fu'n rhan i'r brotest ar Bont Trefechan;
'Welsh Not' Protest iaith yn erbyn Sais a ddiswyddodd ddau weithiwr am siarad Cymraeg yn ei ffatri'n Nhanygrisiau;
Dafydd Iwan ac Emyr Llywelyn yn tynnu giat yr ysgol ym Mhen Llyn;
Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn rhwystro arwerthiant tai yng Nghaernarfon mewn protest yn erbyn tai haf;
Protest Cymdeithas yr Iaith yn erbyn yr Arglwydd Hailsham, Bangor;
Erialau teledu ar bob to ar stryd yng Nghaernarfon;
Ffilmio Ifas y Tryc yng Nghricieth;
Gwenlyn Parry;
Chwarel y Foty, Blaenau Ffestiniog;
Caban chwarel y Goty wythnos cyn ei chau;
Y cyn-chwarelwr William Williams ar safle Chwarel Dinorwig;
Y trên olaf i gyrraedd gorsaf Caernarfon;
Codi rheiliau Morfa Mawddach wedi cau'r lein o Rwiabon i'r Bermo;
Dathlu canmlwyddiant sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia, Lerpwl;
Torf yn mynd ar y llong i ail-greu cychwyn mordaith y Mimosa;
Cymru ranedig 1969: Poster ar ffenest car yng Nghaernarfon…;
…a chroeso rhai o blant Caernarfon i'r Tywysog;
Cynan gyda'i westai brenhinol ar lwyfan Eisteddfod y Fflint…;
…a rali fawr Cymdetihas yr Iaith ddydd Gwyl Dewi i wrthwynebu'r Arwisgo;
Syr Clough Williams Ellis, Pensaer, Plas Brondanw;
Myra Williams, merch trwsio watchis, Amlwch;
Kate Roberts yn gwrando ar John Gwilym Jones yn areithio;
Yr olwyn fawr yn nyddiau olaf parc adloniant enwog Marine Lake, Rhyl;
Y gwneuthurwr hwyliau Kale yn ei weithdy ym Mangor;
Tensing Norgay a Syr John Hunt, arwyr concwest gyntaf Everest ugain mlynedd ynghynt;
Dafydd Wigley'n ennill sedd gyntaf Plaid Cymru, Caernarfon…;
…a'r dorf yn dathlu;
Pont Britannia ar dân;
Corlannu defaid, Llanwddyn;
Y Ddawns Flodau yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych;
Dewi Emrys wedi iddo ennill y gadair ym Mhen-y-bont ar Ogwr;