Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Newyddion

Gorfoledd a thor-calon pêl-droediwr proffesiynol yng nghyfnod Cenhedlaeth Aur Manchester United
'The Queen's Gambit', achubiaeth drwy wyddbwyll a mwy!

'The Queen's Gambit', achubiaeth drwy wyddbwyll a mwy!

Wedi’u hysbrydoli gan y gyfres fer poblogaidd tu hwnt ar Netflix, The Queen’s Gambit, mae miliynau o bobl nawr yn ymddiddori mewn gwyddbwyll. Mae poblogrwydd y gêm, a chwaraewyd gyntaf tua 1,500 o flynyddoedd yn ôl, wedi datblygu yn ystod y cyfnodau clo, gyda gwyddbwyll yn gêm hawdd i’w dysgu, er yn anodd i’w meistroli’n iawn. Yr wythnos hon cyhoeddir Gan Bwyll a Gwyddbwyll (Y Lolfa), addasiad o nofel hynod boblogaidd yn y Saesneg (Check Mates gan Stewart Foster) sy’n dilyn stori bachgen wrth iddo ddysgu am fywyd drwy chwarae gwyddbwyll. Addaswyd y nofel gan yr awdur poblogaidd Bethan Gwanas.  darllen mwy

Y môr, amaethyddiaeth a mwyngloddio – hanes gogledd Ceredigion drwy gofnodion un teulu

Y môr, amaethyddiaeth a mwyngloddio – hanes gogledd Ceredigion drwy gofnodion un teulu

Mae llyfr newydd a gyhoeddir gan y Lolfa, Land of Lead, yn olrhain stori ac atgofion pedair cenhedlaeth o’r un teulu, o’r 19eg ganrif i ganol y 1960au. Mae’r hanes wedi’i gasglu o gofnodion manwl y teulu, gan gynnwys llyfr nodiadau, cardiau post a anfonwyd adre yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a nodiadau a wnaed gan hen ewythr wrth iddo weithio ar reilffordd gul Dyffryn Rheidol. Mae’r llun yma o un teulu o ogledd Ceredigion wedi’i gyflwyno gan un o’r disgynyddion, Brian Davies, sy’n wreiddiol o Benrhyncoch, ger Aberystwyth.  darllen mwy

Awdur newydd yn cyhoeddi 'Harry Potter Cymraeg'
Nofel am orbryder i blant 'Ddarllen yn Well'

Nofel am orbryder i blant 'Ddarllen yn Well'

Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl mae un plentyn a pherson ifanc ym mhob deg yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder a gofid, yn sgil rhywbeth sy’n digwydd yn eu bywydau. Mewn ymateb i hyn mae nofel newydd i blant rhwng 9 a 12 oed yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa i roi sylw i orbryder. Mae Angylion Pryder (Y Lolfa) yn addasiad gan Meinir Wyn Edwards o’r nofel Saesneg Worry Angels gan Sita Brahmachari.  darllen mwy

Adleisiau Pengwern a'r oesoedd a fu yn ysbrydoli nofel ddirgelwch

Adleisiau Pengwern a'r oesoedd a fu yn ysbrydoli nofel ddirgelwch

Yr wythnos hon cyhoeddir nofel newydd gan yr awdur o Dre Taliesin, Martin Davis. Mae Ysbryd Sabrina (Y Lolfa) yn stori ddirgelwch sy’n gweu diflaniad bachgen ifanc gyda hen hanes a chwedl. Lleolir y nofel ar lannau afon Hafren, afon y dduwies Sabrina, lle mae adleisiau Pengwern yr oesoedd a fu a theithi ysgeler y byd cyfoes yn dod ynghyd.  darllen mwy

Awdur llwyddiannus yn ysgrifennu ei lyfr Cymraeg cyntaf i blant
Apêl am fwy o enwau genod gwych Cymru ar gyfer ail gyfrol!
Neges bwysig o ddathlu amrywiaeth yng nghyfres Cyw

Neges bwysig o ddathlu amrywiaeth yng nghyfres Cyw

Mae Bolgi a’r Ŵyn Bach, sef y llyfr nesaf yng nghyfres poblogaidd Cyw gan Anni Llŷn, yn dilyn un o ffrindiau gorau Cyw wrth iddo edrych ar ôl oen bach Guto’r Ffermwr. Mae ynddi neges bwysig am gydraddoldeb, dathlu amrywiaeth, a thrin pawb yr un peth.  darllen mwy

“Cryno, heriol, cyraeddadwy!” – cyfrol amserol yn rhannu syniadau iwtopaidd ar y Gymru Fydd
Trist oedd clywed am farwolaeth Hywel Francis
Poster newydd i hyrwyddo pwysigrwydd cadw enwau lleoedd Cymraeg
Ar Grwydir Eto - portreadau o gymeriadau lliwgar cefn gwlad y gorffennol
Cyfrol hanfodol i bobl Cymru

Cyfrol hanfodol i bobl Cymru

Wedi llwyddiant y podlediad poblogaidd, Dim Rŵan na Nawr cyhoeddir cyfrol gan wasg y Lolfa sy’n dod â’r podlediad rhwng dau glawr - Dim Rŵan na Nawr: Hanes Cymru Drwy’r Oesoedd.  darllen mwy

Cyfrol gyntaf Fflur Dafydd ers 10 mlynedd

Cyfrol gyntaf Fflur Dafydd ers 10 mlynedd

Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr cyntaf Fflur Dafydd yn y Gymraeg ers deng mlynedd. Mae Lloerganiadau yn gyfrol o atgofion personol am blentyndod ac arddegau yr awdures yn ardal Ceredigion dan olau’r lloer, ei chyfrol Gymraeg gyntaf ers cyhoeddi Awr y Locustiaid yn 2010. Datblygwyd ei nofel Y Llyfrgell (2009) fel ffilm boblogaidd yn 2016.  darllen mwy

Nofel gyntaf gan Manon Steffan Ros ers Llyfr Glas Nebo

Nofel gyntaf gan Manon Steffan Ros ers Llyfr Glas Nebo

Enillodd stori Rowena, Siôn a Dwynwen galonnau’r Cymry, yn ogystal â’r Fedal Ryddiaith yn 2018 a Llyfr y Flwyddyn 2019. Dyma nofel gyntaf Manon Steffan Ros ers y corwynt a’r canmol a ddilynodd cyhoeddi Llyfr Glas Nebo. Mae Llechi yn nofel i oedolion ifanc ac yn stori emosiynol, gignoeth yn llawn dirgel sy’n mynd tu hwnt i ffug-barchusrwydd ac yn portreadu byd gwyllt, amherffaith pobl ifanc.  darllen mwy

Boc ac ar goll unwaith eto mewn llyfr newydd gan Huw Aaron

Boc ac ar goll unwaith eto mewn llyfr newydd gan Huw Aaron

Mae Ble Mae Boc?: Ar Goll yn y Chwedlau yn cynnwys 10 llun tudalen ddwbl, gyda phob taenlen yn dangos golygfa newydd sbon, gan gynnwys Y Mabinogi, Cantre’r Gwaelod, Pentref yr Hwiangerddi, Teyrnas y Tylwyth Teg, Yr Helfa Fawr, Ynys yr Ifanc, Sw Angenfilod, Arswyd Annwn, Cwm y Cewri a Pharti Llyfrau Plant. Y nod unwaith eto yw dod o hyd i Boc sy’n cuddio ym mhob llun, ac mae hefyd dros 200 o bethau eraill i’w darganfod. Mae oriau o hwyl a chraffu i hyd yn oed y ddraig-chwiliwr gorau.  darllen mwy

Nofel ddoniol a thorcalonnus, a chipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc

Nofel ddoniol a thorcalonnus, a chipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc

“Y nofel orau, fwyaf pwerus i mi ei darllen ers blynyddoedd. Mae’n ysgytwol.” Dyma eiriau Manon Steffan Ros am nofel gyntaf yr awdures ifanc o Ddyffryn Nantlle, Megan Angharad Hunter. Mae tu ôl i’r awyr yn nofel ddoniol a thorcalonnus sy’n cynnig cipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc na welwyd ei debyg mewn print yn y Gymraeg o’r blaen.  darllen mwy

Cyhoeddi nofel 'milenial' gyntaf y Gymraeg

Cyhoeddi nofel 'milenial' gyntaf y Gymraeg

Mae’r awdures Llio Maddocks yn ystyried ei nofel newydd fel y nofel milenial gyntaf i’w chyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Mae’r nofel Twll Bach yn y Niwl yn nofel ysgafn am dyfu lan ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain ac yn rhoi byd olwg unigryw ar fod yn Gymraes yn y cyfnod cythryblus yma.  darllen mwy

Llwyd Owen yn 'Rhedeg i Parys' mewn antur gyffrous ar hyd Cymru

Llwyd Owen yn 'Rhedeg i Parys' mewn antur gyffrous ar hyd Cymru

“Cyffrous, igam ogam a chariadus” – dyna sut mae’r awdur Llwyd Owen yn disgrifio’i nofel newydd Rhedeg i Parys. Mae’r antur gyffrous yn mynd â’r darllenydd ar daith ar hyd Cymru, ac yn ôl i fyd tywyll y dref ddychmygol Gerddi Hwyan, ac mae nifer o enwau cyfarwydd o’r nofelau blaenorol yn ymddangos yn y stori. Y darpar dditectif Sally Morris yw seren Rhedeg i Parys, ac mae’r stori hon yn troi o amgylch ei hymdrech i i ddod o hyd i fenyw ifanc sydd ar goll ers iddi redeg i ffwrdd gyda’i chariad.  darllen mwy

121-140 o 338 1 . . . 6 7 8 . . . 17
Cyntaf < > Olaf