Kees Huysmans
Fe fynnodd Kees ddysgu siarad yr iaith Gymraeg a chofleidio'r holl draddodiadau Cymreig o'i gwmpas. Fe'i cynghorwyd i ymuno â chôr lleol er mwyn dysgu siarad Cymraeg. Yn ystod y cyfnod hwn daeth o hyd i'w lais canu, a chael ei gyflwyno i fyd yr Eisteddfod. Cyrhaeddodd y diddordeb binacl y gamp pan enillodd y Rhuban Glas yn Eisteddfod y Fenni 2016. Gwir angen a'i gorfododd i droi at fyd busnes, pan drôdd yn ôl at un o ddanteithion ei wlad enedigol, sef y waffles. Erbyn hyn mae'r bisgedi melyn wedi bod yn llwyddiant rhyfeddol ac wedi dwyn enw pentre Tregroes drwy Ewrop. Mae'r Tregroes Waffles bellach i'w gweld ar gownteri siopau mwya'r wlad.