Awen Schiavone
Magwyd Awen ym Mhandy Tudur. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, bu'n gweithio fel athrawes Gymraeg a Daearyddiaeth, ac yna'n darlithio yng Ngwlad Pwyl. Enillodd MPhil mewn Llenyddiaeth Plant a gweithiodd ym maes dwyieithrwydd ac addysg oedolion. Treuliodd gyfnodau yn teithio – i India, De America a de-ddwyrain Asia yn bennaf, ac mae ganddi brofiadau anturus o hwylio rhwng Pen Llŷn a Phortiwgal. Mae Awen yn mwynhau cerddoriaeth, llyfrau, deifio, a llenwi ei bol ar fwydydd blasus!