Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Llyr Gwyn Lewis

Llyr Gwyn Lewis

Yn wreiddiol o Gaernarfon, astudiodd Llŷr Gwyn Lewis yng Nghaerdydd a Rhydychen cyn cwblhau doethuriaeth ar waith T. Gwynn Jones a W. B. Yates. Bu'n darlithio yn Abertawe a Chaerdydd am gyfnod, ond erbyn hyn mae'n olygydd adnoddau gyda CBAC. Enillodd Rhyw Flodau Rhyfel (Y Lolfa, 2014) sef ei gyfrol ryddiaith gyntaf Llyfr y Flwyddyn (Ffeithiol-Greadigol) yn 2015 a chyrhaeddodd cyfrol o'i farddoniaeth rhestr fer y categori barddoniaeth yr un flwyddyn. Yn 2017 detholwyd Llŷr yn un o ddeg o Leisiau Newydd Ewrop 2017, yn rhan o brosiect arloesol Ewrop Lenyddol Fyw (LeuL) a arweinir gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF).

LLYFRAU GAN YR AWDUR

£8.99

Rhyw Flodau Rhyfel

- Llyr Gwyn Lewis
£8.95