Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Mari George

Mari George

Ganed Mari George ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1973. Mynychodd Ysgol Gyfun Llanhari a Choleg Prifysgol Abertawe lle yr astudiodd ar gyfer gradd BA yn y Gymraeg gan fynd ymlaen i astudio gradd MA ar y bardd Wil Ifan. Enillodd Fedal Lenyddiaeth a Chadair Eisteddfod yr Urdd yn ogystal â chadeiriau eraill mewn eisteddfodau lleol. Cyhoeddodd nifer o gerddi mewn cylchgronau fel Taliesin a Barddas a chyfrolau cymysg ond Y Nos yn Dal yn fy Ngwallt yw ei chyfrol unigol cyntaf. Mae'n wyneb adnabyddus yn nosweithiau Stomp yr Eisteddfod ac yn llais cyfarwydd ar Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru. Mae'n byw bellach yng Nghaerdydd, ac yn gweithio fel Golygydd Sgriptiau/Awdur yn Adran Ddrama BBC Cymru.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Cyfres Amdani: Pass y Sugnydd Llwch Darling

- Mari George, Lucy Owen, Rhodri Owen
£4.99

Y Tatw

- Mari George
£5.95

Cyfres Roli Poli: Jac yn Achub y Dydd

- Mari George
£4.99