Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

W. M. Rees

Brodor o Aberdâr oedd y Parchedig W M Rees, a fu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr ym Mhontyberem a Llangyndeyrn yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yn genedlaetholwr, yn heddychwr ac yn ymgyrchydd tanbaid. Dylanwadwyd arno gan ddulliau gwrthwynebu di-drais Gandhi a Martin Luther King ac felly roedd yn ddewis naturiol i fod yn Ysgrifennydd Pwyllgor Amddiffyn Llangyndeyrn pan wrthwynebwyd – yn llwyddiannus – gynllun i greu gronfa ddŵr enfawr yng nghwm Gwendraeth Fach. Bu farw yn 1977.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Sefyll yn y Bwlch - Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965

- W. M. Rees
£9.95