Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Dewi Z. Phillips

Dewi Z. Phillips

Ganed Dewi Zephaniah Phillips yn Abertawe. Astudiodd ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Rhydychen. Gweithiodd fel Gweinidog Eglwys Cynulleidfaol Bae Fabian, Abertawe, cyn dechrau ar ei gyrfa academaidd yng Ngholeg y Frenhines, Dundee yn 1961. Yn 1963 ymunodd a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Yn 1965 dychwelodd i Brifysgol Abertawe i ddarlithio yn yr Adran Athroniaeth. Dyrchafwyd i ddarlithydd hŷn yn 1967 ac eto yn 1971 pan ddaeth yn athro ac yn bennaeth adran. Bu hefyd yn Ddeon y Celfyddydau (1982-1985) ac yn Ddirprwy Brifathro (1989 – 1992). Yn 1993 treuliodd ei amser rhwng California ac Abertawe, ar ôl iddo derbyn swydd Athro Danforth Athroniaeth Crefydd ym Mhrifysgol Graddedig Claremont (California) ac yn 1996 yn Athro Emeritus Rush Rhees a Chyfarwyddwr Archifau Rush Rhees a Peter Winch yn Abertawe. Roedd ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwyr athroniaeth crefydd, moeseg, athroniaeth a llenyddiaeth, Simone Weil, Søren Kierkegaard, a Ludwig Wittgenstein. Cyfrannodd yn helaeth i enw da Prifysgol Abertawe fel canolfan athroniaeth Wittgenstein. Roedd hefyd yn gefnogwr a chyfrannwr brwd at iaith a diwylliant Cymru. Chwareodd rhan allweddol yn sefydlu Canolfan Celfyddydau Taliesin yn Abertawe, a bu'n annog defnydd o'r iaith Gymraeg yn ysgolion lleol. Cafodd ei anrhydeddu yng Ngorsedd y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu farw Dewi Z. Phillips yn 2006.

https://www.theguardian.com/news/2006/aug/21/guardianobituaries.obituaries

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Ffiniau

- Dewi Z. Phillips
£19.95