Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Anthony Griffiths

Anthony Griffiths

Mae Anthony'n ffotograffydd tirwedd a gitarydd adnabyddus. Ganed ym Mangor ond magwyd yn Aberystwyth. Yn yr 1960au tyfodd diddordeb Anthony yn gitar Gwerin a Blues, a fe deithiodd o amgylch Ewrop yn chwarae. Ar ol dychwelyd, symudodd i Lundain lle ffurfiodd 'Windfall' gyda Paul Darby. Mae Anthony wedi chwarae gitar, mandolin a ffidil ar nifer o albwmau gan gynnwys rhai Christie Hennessy, John James a Miek and Roel. Symudodd nol i Gymru yn 1973 lle ffurfiodd Strachan and Griffiths gyda'r gitarydd Ian Strachan. Mae e'n hen ffrind i Meic Stevens, ac yn aelod cyson o'i fand – chwaraeodd ar albwm 'Nos Du, Nos Da'. Mae Anthony yn perfformio yn unigol, gwneud gwaith teledu a sesiwn. Mae Anthony yn chwarewr Blues a Ragtime medrus, ond yn mwyaf adnabyddus am ei drefniadau o geinciau Cymraeg a Celtaidd.
Mae Anthony hefyd yn ffotograffydd dawnus, yn arbennigo mewn tirwedd Cymraeg. Enillodd wobr gyntaf (ar y cyd) o'r gystadleuaeth Ffotograffiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1989 gyda'i lun o Cader Idris.
Ymysg eu ddiddordebau mae mynydda, beicio mynydd, archaeoleg, cerddoriaeth gwerin, cerddoriaeth celtaidd a llenyddiaeth.

http://www.anthonygriffiths.co.uk/

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Legend and Landscape of Wales: Tales of Arthur

- John K. Bollard, Anthony Griffiths
£19.99

Legend and Landscape of Wales: Companion Tales to the Mabinogi

- John K. Bollard, Anthony Griffiths
£19.99

Legend and Landscape of Wales: The Mabinogi

- John K. Bollard, Anthony Griffiths
£19.99

Snowdonia: Myth and Image

- Anthony Griffiths
£6.95