Derec Llwyd Morgan
Er mai fel bardd y daeth Derec Llwyd Morgan i amlygrwydd, ei weithiau fel beirniad llenyddol a hanesydd llên a ddaeth â bri iddo. Ysgrifennodd yn helaeth ar rai o lenorion pwysicaf y Gymru Fodern, o Forgan Llwyd a Charles Edwards hyd at Kate Roberts a Bobi Jones, ond dichon mai ei gyfrolau ar Williams Pantycelyn a'r Diwygiad Mawr yw ei gyfrolau pwysicaf hyd yn hyn. Am 20 mlynedd bu'n ddarlithydd yn Adrannau Cymraeg Aberystwyth a Bangor. Rhwng 1989 a 1995 ef oedd Athro'r Gymraeg yn Aberystwyth. Yna fe'i codwyd yn Brifathro'r Coleg. Rhwng 2001 a 2004 yr oedd hefyd yn Is-Ganghellor Hŷn Prifysgol Cymru. Y tu allan i academia, gwasanaethodd fel Cadeirydd Cyngor a Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, bu ar Gyngor y Llyfrgell Genedlaethol, ac ar gynghorau darlledu'r BBC a'r Awdurdod Teledu Annibynnol. Ar hyn o bryd ef yw cadeirydd Ymddiriedolaeth Kyffin Williams a chadeirydd Pwyllgor Gweithredol Ymddiriedolaeth Pantyfedwen. Ei gyfrol ddiweddaraf yw Y Brenhinbren: Bywyd a Gwaith Thomas Parry 1904-1985. Diau fod ei brofiadau yn ystod ei yrfa wedi bod o gymorth iddo ddeall a gwerthfawrogi bywyd a gwaith Syr Thomas Parry. Mae'n ddilynwr brwd o bêl-droed a chriced ac yn golofnydd chwaraeon Barn.