Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o E. Gwynn Matthews

E. Gwynn Matthews

Mae Gwynn Matthews yn frodor o Lanrhaeadr, Dyffryn Clwyd. Astudiodd Athroniaeth yn Ngholeg y Brifysgol, Bangor, ac Athroniaeth Addysg ym Mhrifysgol Lerpwl. Am bum mlynedd bu'n athro yn Ysgol Uwchradd Prestatyn, lle roedd yn bennaeth yr Adran Addysg Grefyddol ac yn dysgu Rhesymeg (Logic) i Lefel 'O' ac 'A'. Yn y cyfnod hwn dechreudd gynnal dosbarthiadau nos i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA) mewn Athroniaeth. Yn 1975 fe'i apwyntiwyd yn diwtor-drefnydd y WEA yng ngorllewin Clwyd, swydd y bu ynddi am ddeunaw mlynedd. O'r WEA fe ymunodd ag Adran Efrydiau Allanol Coleg y Brifysgol, Bangor, lle bu ar wahanol gyfnodau yn diwtor preswyl, tiwtor cydlynol a phennaeth gweithredol yr Adran. Mae'n aelod o Adran Athronyddol Graddedigion Prifysgol Cymru ac wedi gweithredu fel ysgrifennydd a llywydd yr Adran. Ar hyn o bryd ef yw golygydd y gyfres 'Astudiaethau Athronyddol'. Ymhlith ei gyhoeddiadau mae Hegel, cyfrol ar yr athronydd Almaenig yn y gyfres 'Y Meddwl Modern'. Cyhoeddodd astudiaeth o fywyd a gwaith yr athronydd o Gymro, Syr Henry Jones, Yr Athro Alltud. Mae ganddo ddiddordeb mewn hanes lleol. Ef yw awdur y gyfrol ar Sir Ddinbych yn y gyfres 'Broydd Cymru' a chyfrannodd erthyglau ar gymunedau Sir Ddinbych i Gwyddoniadur Cymru Deuddeng mlynedd yn ôl symudodd ef a'i briod, Mair, i Gaerdydd i fod yn nes at eu meibion, Hywel a Rhodri a'u teuluoedd.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Llenydda, Gwleidydda a Pherfformio

- E. Gwynn Matthews
£7.99

Argyfwng Hunaniaeth a Chred

- E. Gwynn Matthews
£8.99

Dirfodaeth, Cristnogaeth a'r Bywyd Da

- E. Gwynn Matthews
£6.99

Hawliau Iaith: Cyfrol Deyrnged Merêd

- E. Gwynn Matthews
£6.95

Y Drwg, y Da a'r Duwiol

- E. Gwynn Matthews
£6.95

Cenedligrwydd, Cyfiawnder a Heddwch

- E. Gwynn Matthews
£9.95
1-6 o 9 1 2
Cyntaf < > Olaf