Pennar Davies
Roedd Pennar Davies yn fab i löwr, ac addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd, Coleg Balliol a Mansfield, Prifysgolion Caergrawnt ac Yale. Roedd yn weinidog uchel ei barch i'r eglwys Annibynnol Cymraeg ac yn academydd. Roedd yn adnabyddus ym mywyd crefyddol a llenyddol Cymru am hanner canrif fel gweinidog proffwydol, hanesydd, nofelydd, awdur storiau byrion, bardd ac adolygydd llenyddol. Roedd yn weithredol dros yr iaith Gymraeg drwy gydol ei oes. Bu farw Pennar Davies yn 1996.