Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Meredydd Evans

Meredydd Evans

Ganwyd Dr Meredydd Evans yn 1919 a magwyd ef yn Nhanygrisiau. Ar ol gadael yr ysgol yn 14 oed aeth i weithio fel siopwr, cyn parhau a'i addysg yng Ngholeg Clwyd, Y Rhyl a Choleg Prifysgol Bangor. Cafodd swydd wedyn yng Ngholeg harlech, yna bu'n gweithio fel newyddiadurwr ar Y Cymro, yn darlithio ym Mhrifysgol Princeton, UDA, ac yna yn yr Adran Efrydiau Allanol ym Mangor. Bu'n Bennaeth Adloniant Ysgafn gyda'r BBC cyn dychwelyd i Addysg Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd. Ymddeolodd Mered a Phyllis ac ymgartrefu yng Nghwmystwyth.Bu'r ddau yn flaenllaw ym myd adloniant Cymru ers hanner canrif. Trwy eu hymroddiad a'u brwdfrydedd, maent wedi gwneud cyfraniad aruthrol i'r traddodiad canu gwerin, yr iaith Gymraeg ac i holl ddiwylliant Cymru.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Serch a'i Helyntion

- Meredydd Evans
£12.99

Hela'r Hen Ganeuon

- Meredydd Evans
£14.95