D. Huw Owen
Yn frodor o Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, bu Dr Owen yn ystod ei yrfa yn archifydd, gweinyddwr a darlithydd yn Aberystwyth a Chaerdydd. Hyd ei ymddeoliad ef oedd Ceidwad Darluniau a Mapiau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae'n weithgar gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn aelod o bwyllgor gwaith CAPEL, a Bwrdd Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru.