Eileen Beasley
Ganed Eileen Beasley i deulu o ffermwyr ger Henllan Amgoed, ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Yn athrawes wrth ei galwedigaeth, bu'n ymgyrchu'n ddiflino, ynghyd a'i gŵr Trefor, dros yr iaith a'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y 1950au. Hi oedd yr aelod cyntaf o Blaid Cymru i gael ei hethol ar Gyngor Dosbarth. Bu farw Eileen Beasley yn 2012.