Tony Bianchi
Brodor o North Shields, Northumberland oedd Tony Bianchi. Wedi cyfnodau yn Llanbedr Pont Steffan, Cei Conna ac Aberystwyth, symudodd i Gaerdydd. Dysgodd Gymraeg fel oedolyn, a chyhoeddodd nofelau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bu'n bennaeth Adran Lenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru cyn mynd i weithio fel ysgrifennydd, golygydd a chyfieithydd ar ei liwt ei hun yn 2002. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2007 am ei lyfr Pryfeta. Yn 2015 enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod. Bu farw Tony yn 2017.
LLYFRAU GAN YR AWDUR
7-8 o 8 | 1 2 | |
Cyntaf < > Olaf |