Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Mair Roberts

Ganed Mair Roberts (Telynores Colwyn) yn Hen Golwyn a bu'n ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Penmaenrhos ac Ysgol Ramadeg Abergele. Dechreuodd gael gwersi telyn pan oedd yn 10 oed gan y diweddar Alwena Roberts. Erbyn cyrraedd ei phenblwydd yn un ar bymtheg roedd wedi ennill derigwaith ar brif gystadleuaeth canu'r delyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe'i hurddwyd i'r Wisg Las yng Ngorsedd y Beirdd tra oedd yn ddisgybl ysgol. Enillodd Ysgoloriaeth Rosa Harvey i'r Athrofa Frenhinol yn Llundain a thra oedd yn yr Academi enillodd Wobr Julia Leney am ganu'r delyn. Yn bedair ar bymtheg oed, penodwyd hi'n brif delynores Cerddorfa Symffoni Swydd Efrog, ac yn y man daeth yn brif delynores Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl. Ymddangosodd fel unawdydd mewn nifer fawr o gyngherddau ac yn fynych ar y radio a'r teledu.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Hwyl gyda'r Delyn

- Mair Roberts
£19.95