Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Eirwen Gwyn

Eirwen Gwyn

Ganed yn Lerpwl i Annie a William St. John Williams (deintydd a bardd), mudodd y teulu i Langefni yn 1928. Addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Enillodd radd PhD ym maes Crisialeg Pelydrau-X yn 1940.Bu'n ymchwilydd gwyddonol, yn athrawes ffiseg, yn archwilydd mewn adran o'r gwasanaeth gwladol, yn ffermio, yn athro-drefnydd i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr, yn ddarlithydd a darlledydd cyson. Ysgrifennodd tua 1200 o erthyglau, ar bynciau gwyddonol yn bennaf, yn Y Cymro, Y Faner, Y Gwyddonydd a chylchgronau eraill yn ogystal a rhai llyfrau.

http://www.independent.co.uk/news/obituaries/eirwen-gwynn-434251.html

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Torri'n Rhydd

- Eirwen Gwyn
£3.95

Hon

- Eirwen Gwyn
£3.95

Dawns Angau

- Eirwen Gwyn, Roy Lewis
£2.00