Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ifor ap Gwilym

Ganed ym Mangor yn fab i'r Parchedig William Williams a Myfi Williams. Magwyd ef ym Machynlleth, ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Derbyniodd hyfforddiant ar y piano gan Mrs Briwnant Jones, ffidil gydag Eric Jones, organ gyda Charles Clements, telyn gydag Alwena Roberts a llais gyda Redvers Llewelyn. Bu'n aelod o sawl cerddorfa ieuenctid. Enillodd Ysgoloriaeth i astudio Cerddoriaeth ym Mangor, yn adran yr Athro William Mathias. Graddiodd gydag Anrhydedd ym 1974. Bu'n gweithio gydag Urdd Gobaith Cymru am gyfnod byr cyn cael ei benodi yn Drefnydd Cynorthwyol Eisteddfodau Cenedlaethol y De. Bu'n cynorthwyo gydag Eisteddfodau Cenedlaethol Aberteifi, Caerdydd, Dyffryn Lliw ac Abertawe. Bu'n Gor-feistr Côr Eisteddfod Genedlaethol Abertawe (1982) a Bro Colwyn (1995) ac y mae wedi bod yn un o organyddion swyddogol Gorsedd y Beirdd ac yn Arholydd Cerdd yr Orsedd. Y mae'n arweinydd Cymanfaoedd cydnabyddedig - bu'n arwain Cymanfa Ganu Cymry Awstralia yn Melbourne ym 1991. Wedi cyfnod yn gweinyddu Gwasg Christopher Davies, ac yn un o olygyddion cylchgrawn Barn, penodwyd ef yn Swyddog Gweinyddol gyda Chyd-bwyllgor Addysg Cymru yng Nghaerdydd. Ym 1984 sefydlwyd ef yn Weinidog ar Ofalaeth Aberteifi o Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Ym 1989 symudodd i ofalu am eglwysi Mynydd Seion, Eglwys Crist a Thabor yn Abergele. Cyhoeddwyd ysgrifau ar hanes cerddoriaeth ganddo mewn nifer o gyfnodolion.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Emynau Cymru / The Hymns of Wales

- Ifor ap Gwilym, Gwynn ap Gwilym
£6.95