Dyfed Edwards
Mae Dyfed Edwards o Sir Fôn yn wreiddiol. Mae Dyfed yn awdur, yn ddramodydd, ac yn newyddiadurwr profiadol. Buodd yn ganwr-gyfansoddwr yn ogystal am gyfnod, ond dechreuodd ganolbwyntio ar ysgrifennu llyfrau. Enillodd Y Fedal Ddrama yn Eisteddofd Genedlaethol Caerdydd 2008 am ei ddrama hir, Cors Oer. Enillodd y wobr am eilwaith yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009 gyda'r ddrama Tân Mewn Drain.