Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Gareth Ffowc Roberts

Gareth Ffowc Roberts

Yn hanu o Dreffynnon, Sir y Fflint cafodd Gareth Ffowc Roberts ei addysg yn y dref honno cyn graddio mewn Mathemateg yn Rhydychen ac ennill doethuriaeth gan Brifysgol Nottingham. Mae wedi arbenigo mewn addysg mathemateg gan weithio fel Ymgynghorydd Mathemateg gyda Chyngor Sir Gwynedd cyn symud i'r Coleg Normal, Bangor. Bu'n Brifathro'r coleg ac yna yn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor ac yn Athro Addysg yn y brifysgol honno. Mae wedi cyfrannu'n helaeth at boblogeiddio mathemateg mewn erthyglau a llyfrau ac ar y cyfryngau. Yn 2010 dyfarnwyd y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg iddo gan yr Eisteddfod Genedlaethol am ei waith mewn mathemateg. Yn 2011 fe'i derbyniwyd i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro. Cyhoeddodd Mae Pawb yn Cyfrif: Stori Ryfeddol y Cymry a'u Rhifau gyda Gwasg Gomer yn 2012, Posau Pum Munud yn 2013 a Posau Pum Munud 2 yn 2014.

http://www.garethffowcroberts.com

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Nid oes unrhyw gofnodion yn cydweddu