Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Ed Gold

Ed Gold

Tynnodd Ed Gold ei lun cyntaf yn wyth oed, ac mae camera wedi bod wrth ei ochr byth ers hynny. Ganwyd ef yn Llundain a chafodd ei fagu yn Essex ac Istanbul. Symudodd i ogledd Cymru yn 1999, syrthio mewn cariad �'r dirwedd a dod yn ffotograffydd llawn amser ddeng mlynedd yn �l. Graddiodd Ed mewn dylunio a derbyn MA o Central St Martins College of Art and Design. Mae ei gymhelliad tanbaid i gofnodi ar ei liwt ei hun wedi mynd ag e dros y byd i dynnu lluniau, nid er mwyn llwyddiant masnachol, ond oherwydd ei awydd i gadw lluniau oメr diwylliant, llwythau, cymunedau, arferion, traddodiadau a phobl leiafrifol sy'n tanio'i angerdd a'i reddf greadigol ar gof a chadw. Cyhoeddodd Patagonia: Byd Arall / Otro Mundo / Another World gyda Gwasg Gomer ym mis Gorffennaf 2012.

http://www.edgold.co.uk

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Patagonia - Byd Arall / Otro Mundo / Another World

- Ed Gold
£19.99