Danny Penman
Mae Dr Danny Penman yn athro myfyrdod cymwysedig ac yn awdur a newyddiadurwr gwobrwyog. Enillodd wobrau newyddiaduraeth gan yr RSPCA a Chymdeithas Ddyngarol yr Unol Daleithiau. Yn 2014, enillodd wobr am y llyfr gorau ar Feddyginiaeth Boblogaidd gan Gymdeithas Feddygol Prydain am Mindfulness for Health: A Practical Guide to Relieving Pain, Reducing Stress and Restoring Wellbeing (wedi'i ysgrifennu ar y cyd â Vidyamala Burch). Ymhlith ei lyfrau eraill mae Mindfulness for Creativity a The Art of Breathing. Cyfieithwyd ei lyfrau i dros 30 iaith, ac mae ei waith newyddiadurol wedi ymddangos yn y New Scientist, y Daily Mail, yr Independent, y Guardian a'r Daily Telegraph. Mae ganddo ddoethuriaeth mewn biocemeg.