Dr Alex Bailey
Mae Dr Alex Bailey yn seiciatrydd henaint ymgynghorol Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Westminster a Phrif Glinigwr Oedolion Hŷn yn Ymddiriedolaeth Sefydliad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Canol a Gogledd Orllewin Llundain. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau cenedlaethol yn ymwneud ag addysg a dementia yn rhinwedd ei swydd yn ddarlithydd er anrhydedd yng Ngholeg Imperial Llundain. Yn ogystal, mae'n gyn-feddyg ymgynghorol i Gyfarwyddwr Meddygol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn yr Adran Iechyd. Cafodd ei hyfforddi mewn therapi teulu ac mae ganddo radd Meistr mewn Addysg o'r Coleg Imperial. Mae'n aelod gweithredol o Gyfadran Seiciatreg Oedolion Hŷn yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion.