Iwan "Iwcs" Roberts
Magwyd Iwcs (Iwan Roberts) yn Nhrawsfynydd, yr ieuengaf o bump o blant. Mae wedi actio mewn sawl cyfres ddrama deledu a nifer o sioeau theatr. Mae hefyd yn ganwr a chyfansoddwr ac mae wedi rhyddhau llu o ganeuon dros y blynyddoedd. "Dal y Mellt" yw ei nofel gyntaf.