Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Sioned Erin Hughes

Sioned Erin Hughes

Graddiodd Erin mewn Cymdeithaseg a Chymraeg o Brifysgol Bangor, cyn bwrw ati â chwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol dan arweiniad Yr Athro Gerwyn Wiliams.
Dechreuodd Erin ysgrifennu'n greadigol o ddifrif wedi iddi ennill y Goron yn Eisteddfod yr Urdd, 2018. Aeth ymlaen i guradu a golygu'r gyfrol Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa), a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020. Yn 2020 hefyd y cyhoeddodd ei llyfr cyntaf i blant, Y Goeden Hud (Gwasg Carreg Gwalch). Yn 2022, enillodd y Fedal Ryddiaith yng Ngheredigion am ei chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom (Gwasg y Lolfa). Ei chyfrol ddiweddaraf yw O'r Rhuddin (Gwasg y Lolfa), sy'n cynnwys 365 darn creadigol, un ai'n gerddi neu'n llen meicro. Mae Erin bellach yn gydlynydd rhan amser i Barddas, ac yn treulio gweddill ei hamser yn gweithio'n llawrydd drwy ysgrifennu a golygu llyfrau, a chynnal gweithdai creadigol i blant a phobl o bob oed.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

O'r Rhuddin - 365 o fyfyrdodau mewn blwyddyn

- Sioned Erin Hughes
£10.99
£8.99

Byw yn fy Nghroen

- Amrywiol
£7.99