Dr Sallie Baxendale
Ymgynghorydd mewn niwroseicoleg glinigol yw Dr Sallie Baxendale ac mae wedi gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gyda phobl ag anawsterau cofio ers dros ugain mlynedd. Mae wedi ysgrifennu dros hanner cant o gyhoeddiadau academaidd ar sut mae'r cof yn gweithio. Mae ei gwaith yn y maes hwn yn amrywio o ddatblygu strategaethau adfer i astudio sut mae'r cyfryngau yn camliwio problemau cofio. Ar hyn o bryd mae'n gweithio i'r Sefydliad Niwroleg, Coleg Prifysgol Llundain.