Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Noson lansio Syllu ar Walia' - Ffion Dafis yng Nghaerdydd

Dewch draw i noson lansio Syllu ar Walia' gan Ffion Dafis.

Dyma gyfrol hunangofiannol ffraeth sy'n cymryd golwg ar fywyd trwy lygaid y Gymraes, Ffion Dafis, sydd ddim yn ofni dweud ei dweud yn blwmp ac yn blaen.

Byddwn yn lansio'r gyfrol yn Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd nos Wener 10 Tachwedd am 7 o'r gloch.

Bydd Ffion Dafis yn sgwrsio gyda Kate Crockett am ei chyfrol, bydd perfformiadau gan yr actorion Delyth Eirwyn a Rhys ap Trefor a bydd cerddoriaeth fyw gan Tacla.

Digwyddiad am ddim a chroeso cynnes i bawb.