Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfrau Gerald Morgan

Ymunwch a ni am 6.30 o'r gloch yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ar gyfer lansiad CYMRO A'I LYFRAU gan Gerald Morgan.

Dim ond naw oed oedd Gerald Morgan pan ddechreuodd gasglu llyfrau gyda'i arian poced. Erbyn hyn, mae'n berchen ar lyfrgell drawiadol a hynod ddifyr sy'n dweud cyfrolau am y dyn ei hun.

Bydd Gerald Morgan yn cael ei holi gan Gruffudd Antur.

Mae'r llyfr hwn yn llawn hanesion difyr am daith bywyd yn frith o lwyddiannau a siomedigaethau wrth iddo hel yr hyn sy'n dystion papur i iaith a diwylliant Cymru, ac mae'n adrodd stori gyfoethog y Cymro diddorol hwn.