Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Lansio Myfi Iolo yn The Bear, Pontfaen

Ymunwch a ni ar gyfer lansiad MYFI, IOLO gan GARETH THOMAS yng ngwesty The Bear, Y Bontfaen ar nos Iau, 23 Tachwedd am 7 o’r gloch
yng nghwmni Gareth Thomas, Carys Whelan, Shân Mererid ac erail. Bydd darlleniadau gan Eiry Palfrey fel Peggy a Danny Grehan fel Iolo.

RSVP: fflur@ylolfa / 01970 832 304

Noddir y lansiad gan westy The Bear.

Dyma nofel hanesyddol fyrlymus yn dilyn ôl-troed un o gymeriadau mwyaf diddorol hanes Cymru, Iolo Morgannwg. Nofel llawn antur, dirgelwch, cariad, gwrthryfel, trais, cyffuriau, angerdd, ysbiwyr a brad.