Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Lansiad | Noson yng nghwmni Huw Chiswell

Dewch i fwynhau cyngerdd arbennig yn nghwmni Huw Chiswell, un o ganwyr-gyfansoddwyr mwyaf adnabyddus a phoblogaidd y Gymraeg. Dyma gyfle hefyd i ddathlu cyhoeddi cyfrol newydd ganddo drwy wasg y Lolfa, sef Shwd Ma’i yr Hen Ffrind,cyfrol sy’n cynnwys geiriau rhai o'i ganeuon enwocaf, ymateb creadigol i'r caneuon ac ysgrifau dadlennol yn egluro sbardun a chefndir pob cân.

Y bardd a’r cerddor Geraint Løvgreen fydd yn sgwrsio efo Huw yn hanner gynta’r noson am gynnwys y llyfr, ei fywyd a’i ganeuon.

Trefnir y noson mewn cydweithrediad efo gwasg Y Lolfa.