Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Galar a Fi

Galaru yw'r ymateb greddfol ar ôl colli rhywun sy'n annwyl. Mae person sy'n galaru yn mynd trwy ystod eang o emosiynau, ac er bod y teimlad o alar yr un peth i bawb, mae'r hiraethu yn gallu effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.

Galar a Fi yw ymateb 14 o bobl sydd wedi bod trwy'r camau o alaru ar ôl colli brawd, chwaer, ffrind, mab, merch, tad, mam neu gymar. Mae stori pob un yn unigryw ac yn ddirdynnol.

Dewch i ganolfan Y Morlan yn Aberystwyth am 7 o'r gloch, nos Fercher y 27 o Fedi ar gyfer noson yng nghwmni rhai o gyfranwyr y gyfrol fydd yn trafod eu profiadau ac yn darllen o'r gyfrol.

Bydd y noson yng ngofal y golygydd Esyllt Maelor.