Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Erthyglau

'Mae'r ysgrifen ar y mur!
'Ffyrnig, ffraeth a chyhyrog': nofel gyntaf Iwcs

'Ffyrnig, ffraeth a chyhyrog': nofel gyntaf Iwcs

“Taith wyllt i berfeddion byd sy’n troi o dan ein trwynau. Ffyrnig, ffraeth a chyhyrog. Mae Iwcs yn ninja o nofelydd” – dyna ganmoliaeth uchel yr actor adnabyddus Rhys Ifans am Dal y Mellt, sef nofel gyntaf yr actor a’r canwr poblogaidd Iwcs (Iwan Roberts).  darllen mwy

Nofel gyfoes Haf Llewelyn yn archwilio effaith damwain

Nofel gyfoes Haf Llewelyn yn archwilio effaith damwain

Mae’r awdures boblogaidd Haf Llewelyn, sydd wedi ysgrifennu nifer o nofelau hanesyddol, wedi troi at sgwennu nofel gyfoes sy’n darlunio clymau o fewn cymdeithas yn dilyn damwain. Mae Pwyth, sydd wedi’i leoli mewn tref fach glan y môr yng ngogledd Cymru, hefyd yn edrych ar sut mae disgwyliadau pobl, a disgwyliadau ein hunain, yn effeithio ar yr unigolyn.  darllen mwy

Y LLYFR GWREIDDIOL CYNTAF CYMRAEG I GYFLWYNO MABWYSIADU I BLANT
Newyddion ffug yn oes Niclas y Glais

Newyddion ffug yn oes Niclas y Glais

Yn oes newyddion ffug gwelwn o lythyrau Niclas y Glais at ei ffrindiau Evan Roberts ac Awena Rhun yn ogystal â’i ysgrifau newyddiadurol fod hyn ddim yn beth newydd, a bod adrodd y newyddion mewn ffordd gamarweiniol yn digwydd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif yn ogystal â’r presennol. Meddai Glen George, nai i Niclas y Glais:  darllen mwy

DATHLU DROS 10,000 O FLYNYDDOEDD O HANES Y MÔR MEWN LLYFR NEWYDD

DATHLU DROS 10,000 O FLYNYDDOEDD O HANES Y MÔR MEWN LLYFR NEWYDD

Mae’r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr erioed o hanes y môr yng Nghymru - a gymrodd dros ddegawd i’w hymchwilio a’i chynhyrchu - yn cael ei chyhoeddi’r wythnos yma. Mae’r gyfrol Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr yn tyrchu i bob agwedd o gysylltiad Cymru â’r môr, o hanes cynnar i’r presennol: o archeoleg i baentiadau a barddoniaeth, o hanes morwrol i wyliau glan y môr.  darllen mwy

Lloyd Jones yn ail ymweld â byd ei nofel enwog Y Dŵr

Lloyd Jones yn ail ymweld â byd ei nofel enwog Y Dŵr

Y Dŵr gan Lloyd Jones oedd un o’r nofelau dystopaidd gorau i’w cyhoeddi yn y Gymraeg. Fe’i disgrifiwyd fel clasur, oedd yn “ysgytwol a gafaelgar” pan y’i cyhoeddwyd yn 2009. Yr wythnos hon cyhoeddir rhaghanes (prequel) i’r nofel, sef Fflur.  darllen mwy

Cofnodi newidiadau enfawr: Hanes Menywod Cymru yn y ganrif ddiwethaf

Cofnodi newidiadau enfawr: Hanes Menywod Cymru yn y ganrif ddiwethaf

Mae ffrwyth ymchwil, cydweithio a chofnodi a wnaethpwyd bron i ugain mlynedd yn ôl yn gweld golau dydd o’r diwedd gyda chyhoeddi cyfrol gyfoethog yn adrodd hanes difyr ac onest menywod o bob rhan o Gymru. Mae Hanes Menywod Cymru 1920–1960: Yn eu geiriau eu hunain gan Catrin Stevens, ac arweinydd y prosiect yma, yn seiliedig ar leisiau dros fil o fenywod.  darllen mwy

Y ddafad ddu yn San Steffan: Hanes diweddar y blaid Lafur drwy lygaid Cardi
Nofel 'agerstalwm' cyntaf erioed yn y Gymraeg

Nofel 'agerstalwm' cyntaf erioed yn y Gymraeg

Yr wythnos hon cyhoeddir y nofel gyntaf erioed yn y genre ‘Agerstalwm’ (Steampunk) yn y Gymraeg. Mae Agerstalwm yn gwneud defnydd o hanes yr 19eg ganrif ond yn gorliwio datblygiadau technolegol y cyfnod er mwyn amlygu themâu sy’n berthnasol i ni heddiw. Babel yw teitl y nofel, sydd wedi ei hysgrifennu gan Ifan Morgan Jones a’i chyhoeddi gan Y Lolfa.  darllen mwy

Cyfrol am rai o fawrion llenyddol Cymru

Cyfrol am rai o fawrion llenyddol Cymru

Humphrey Llyud, William Salesbury, Henry Salesbury, Morgan Llwyd, Jac Glan-y-Gors, Thomas Jones o Ddinbych, Twm o’r Nant, Thomas Gee, Syr Henry James – dyna enwau rai o fawrion llenyddol Sir Ddinbych ac enwau sy’n ymddangos mewn cyfrol newydd sbon gan wasg y Lolfa – Genefa, Paris a Dinbych ac Ysgrifau Eraill.  darllen mwy

Nofel am dref glan môr yn agor trafodaeth am begynnu barn mewn cymdeithas
Cyhoeddi astudiaeth gan Merêd ym mlwyddyn canmlwyddiant ei eni
261-280 o 485 1 . . . 13 14 15 . . . 25
Cyntaf < > Olaf