Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Erthyglau

Beti George yn canmol nofel ingol am gariad a dementia
Daw eto haul ar fryn - neges nofel gyntaf Heiddwen Tomos i'r arddegau
Nofel gyda themâu amserol a chyfoes

Nofel gyda themâu amserol a chyfoes

“Cynnil, meistrolgar a chwbl wreiddiol”, dyna eiriau Mererid Hopwood am Wal, nofel i oedolion gan Mari Emlyn a gyhoeddir gan wasg y Lolfa. Mae Wal yn delio â themâu cyfoes ac amserol ac yn gwbl wahanol i unrhyw nofel arall a gyhoeddwyd yn y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nofel amlhaenog, arbrofol yw hi a fydd yn gwthio ffiniau llenyddol a’r hyn a ystyrir i fod yn llyfrau plant a llyfrau oedolion. Disgrifiwyd hi gan Emyr Lewis yn “sinistr o ddiniwed; anghynnes o agos-atoch; arteithiol o ddarllenadwy”.  darllen mwy

Cyfrol sy'n cynnig gobaith mewn cyfnod tywyll

Cyfrol sy'n cynnig gobaith mewn cyfnod tywyll

Yn rhan o gynllun Darllen yn Well, cyhoeddir cyfieithiad i’r gwerthwr gorau, Reasons to Stay Alive gan yr awdur uchel ei barch a hynod boblogaidd, Matt Haig. Mae Rhesymau Dros Aros yn Fyw yn lyfr teimladwy, doniol a llawen sydd yn ceisio lleihau’r stigma sydd ynghlwm ag iechyd meddwl ac yn ceisio argyhoeddi pobl mai “nid o waelod y cwm y mae’r olygfa orau.”  darllen mwy

Cyhoeddi Tylwyth - drama newydd gan Daf James

Cyhoeddi Tylwyth - drama newydd gan Daf James

Ym mis Mawrth mi fydd y ddrama Tylwyth yn cael ei pherfformio ar hyd a lled Cymru – drama arloesol Daf James sy’n olynydd i’r enwog Llwyth a berfformiwyd ddegawd yn ôl. Mae Tylwyth yn cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman.  darllen mwy

Straeon tywyll am bobl y cyrion gan awdures boblogaidd
Cyhoeddi cyfrol o lythyrau am brofiadau byw gydag iselder

Cyhoeddi cyfrol o lythyrau am brofiadau byw gydag iselder

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Asiantaeth Darllen (The Reading Agency) a llyfrgelloedd i sicrhau bod y cynllun Darllen yn Well ar gael ar draws Cymru. Fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer dementia yn 2018, a llynedd fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl. Nod Darllen yn Well ydi i roi cymorth i bawb deall a rheoli eu hiechyd a byw yn dda a rhoi cyngor i deulu a gofalwyr. Mae’r llyfrau i gyd wedi’u cymeradwyo gan weithwyr y maes iechyd. Mae’r Asiantaeth Darllen yn gweithio ar y cyd gyda Chyngor Llyfrau Cymru i sicrhau bod y llyfrau ar y rhestr ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf.  darllen mwy

Gwladgarwr Gwent: Cofio Steffan Lewis

Gwladgarwr Gwent: Cofio Steffan Lewis

Mis Ionawr 2019, bu farw y gwleidydd addawol ifanc o Went, Steffan Lewis. Bron i flwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddir y gyfrol Gwladgarwr Gwent / Son of Gwent: Cofio Steffan Lewis, yn Gymraeg a Saesneg, i gofio’r gwleidydd a’r dyn teuluol, gyda chyfraniadau gan deulu a ffrindiau Steffan Lewis, ynghyd â’r gwleidyddion Elin Jones AC, Leanne Wood AC, Carwyn Jones AC ac Adam Price AC ymhlith eraill.  darllen mwy

Straeon doniol a deifiol teulu'r Cilie

Straeon doniol a deifiol teulu'r Cilie

Mae teulu’r Cilie yn adnabyddus yng Nghymru am eu ffraethineb a’u dawn dweud diarhebol. Mae sawl un wedi ennill gwobrau llenyddol o fri mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae Jon Meirion Jones, gor-ŵyr i Jeremiah a Mary Jones, oedd yn byw ar fferm Y Cilie ger Llangranog, wedi casglu straeon doniol a deifiol am aelodau teulu enwog. Mae Hiwmor y Cilie yn cynnwys straeon digri a jôcs, yn ogystal ag englynion dychan, penillion smala a chwedlau doniol. Ceir hanesion yn llawn troeon trwstan a dweud crafog am deulu oedd yn enwog am dynnu coes.  darllen mwy

O alwadau Meibion Glyndwr i alcoholiaeth: perygl a sbri 'oes aur' newyddiaduriaeth

O alwadau Meibion Glyndwr i alcoholiaeth: perygl a sbri 'oes aur' newyddiaduriaeth

Mae’r newyddiadurwr Alun Lenny yn hel atgofion am rai o straeon mawr ‘oes aur’ newyddiaduriaeth, sef yr oes ar drothwy symud o ffilm i’r oes ddigidol, yn ei hunangofiant newydd Byw Ffwl Pelt. Mae’r gyfrol ddifyr yn sôn am y rhuthr dyddiol byd casglu newyddion: y peryglon a’r sbri, y dwys a’r digri, a’r effaith niweidiol gafodd blynyddoedd o brysurdeb wrth gyflawni ‘y wyrth fach ddyddiol’ o fachu stori i’w darlledu i’r genedl ar y gohebydd talentog hwn.  darllen mwy

Degfed nofel Gymraeg Llwyd Owen - arloesi gyda'r Ods
Llyfr newydd am adar wedi ei ysgrifennu gan ferch 10 oed

Llyfr newydd am adar wedi ei ysgrifennu gan ferch 10 oed

Ym mlwyddyn 6 Ysgol Treganna mae Onwy Gower yn ddisgybl, ond eleni mi fydd hi’n cyhoeddi ei llyfr cyntaf – efallai’r person ifancaf erioed i ysgrifennu llyfr Cymraeg. Roedd Onwy yn gweld bwlch o ran llyfrau natur i blant, ac felly mi aeth ati i ysgrifennu llyfr ei hun sy’n cynnwys ffeithiau a darluniau o adar.  darllen mwy

Penllaw degawdau o waith ymchwil

Penllaw degawdau o waith ymchwil

Penllanw degawdau o waith ymchwil i hanes unigryw Cymry Lerpwl a glannau Merswy yw Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl gan D. Ben Rees. Dyma gyfrol swmpus, yn cynnwys lluniau, sy’n gofnod pwysig gan un o awduron amlycaf y ddinas ac sy’n adnabyddus drwy Gymru gyfan.  darllen mwy

241-260 o 497 1 . . . 12 13 14 . . . 25
Cyntaf < > Olaf