Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Erthyglau

Cyhoeddi'r cofiant cyflawn cyntaf erioed i Cynan

Cyhoeddi'r cofiant cyflawn cyntaf erioed i Cynan

Mae’r cofiant yn ymdrin â sawl agwedd ar ei fywyd – fel bardd, eisteddfodwr, Cofiadur, Archdderwydd, cyd-ysgrifennydd Cyngor yr Eisteddfod, sensor dramâu, dramodydd, cynhyrchydd, beirniad. Rhannwyd y gyfrol yn saith pennod neu act i gyfateb yn gronolegol i wahanol gyfnodau yn ei fywyd lliwgar a llawn.  darllen mwy

Cyhoeddi hunangofiant un o arloeswyr pennaf y Gymraeg

Cyhoeddi hunangofiant un o arloeswyr pennaf y Gymraeg

Y mis hwn cyhoeddir hunangofiant un sydd wedi bod wrth galon rhai o’r datblygiadau a’r penderfyniadau pwysicaf yn hanes y diwylliant Cymraeg. Gwasg y Lolfa sy’n cyhoeddi Dwi isio bod yn..., hunangofiant y canwr, darlledwr a’r dyn busnes Huw Jones.  darllen mwy

Llyfr Shwshaswyn i gyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar i blant bach

Llyfr Shwshaswyn i gyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar i blant bach

Mae iechyd meddwl wedi dod yn bwnc amlwg dros y blynyddoedd diwethaf, ac wedi dod hyd yn oed yn fwy perthnasol eleni, yn sgil argyfwng rhyngwladol Coronafeirws. Mae trefn arferol miloedd o blant ac oedolion wedi’i ddinistrio, a gofid ac ansicrwydd wedi codi yn ei le. Yr wythnos yma, cyhoeddir llyfr cyntaf Shwshaswyn, Garddio, sydd hefyd yn gyfres deledu. Mae’r gyfres newydd yma, sydd yn trafod ymwybyddiaeth ofalgar, wedi’i hanelu at blant dan 7 oed, ac yn gwahodd plant i ddianc o brysurdeb eu byd drwy arafu, gwrando, llonyddu a thawelu.  darllen mwy

Llyfr coginio newydd yn dathlu'r lleol, y tymhorol, y cynaliadwy a'r Cymreig
Codi arian hanfodol i'r hosbis i blant Tŷ Hafan

Codi arian hanfodol i'r hosbis i blant Tŷ Hafan

Ers iddo agor yn 1999 mae Tŷ Hafan, yr elusen sydd yn cynnig gofal a chymorth i blant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr, wedi cefnogi dros 850 o blant a’u teuluoedd. Fel rhan o ymgyrch codi arian at yr elusen bwysig hon mae un o’i gwirfoddolwyr, Juliet Bebbington, wedi ysgrifennu cyfrol hwyliog i blant gynradd gyda’r holl elw yn mynd tuag at yr hosbis.  darllen mwy

Golwg dychanol a damniol ar fyd addysg uwch gan gyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol Cymru
Cyhoeddi cyfrol o jôcs i godi arian i'r Gwasanaeth Iechyd
Cyfrol arloesol yn trafod dibyniaeth ar alcohol yn y Gymru Gymraeg

Cyfrol arloesol yn trafod dibyniaeth ar alcohol yn y Gymru Gymraeg

Yn ôl ymchwil gan Alcohol Change UK mae chwarter oedolion Cymru wedi cynyddu faint o alcohol maent yn ei yfed yn ystod cyfnod y Clo Mawr, gyda gwerthiant diodydd meddwol wedi neidio i fyny 31% yn ystod mis Mawrth eleni. Mae’r llyfr newydd Un yn Ormod a olygwyd gan Angharad Griffiths yn un amserol felly ac yn gobeithio agor y drafodaeth o berthynas unigolion gydag alcohol ac yn cynnig cymorth drwy’r Gymraeg ar bwnc sensitif iawn.  darllen mwy

Llyfr newydd i ddysgwyr yn cynnwys straeon wedi eu hysbrydoli gan y cyfnod clo

Llyfr newydd i ddysgwyr yn cynnwys straeon wedi eu hysbrydoli gan y cyfnod clo

Mae’r Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Lolfa wedi cydweithio ar lyfr newydd o straeon gan rai o awduron blaenllaw Cymru ar gyfer dysgwyr. Bydd y llyfr yn cael ei lansio adeg gŵyl AmGen, gydag un stori yn cael ei ddarllen bob dydd am yr wythnos gyfan. Llyfr delfrydol i ddysgwyr sy’n awchu am ddeunydd i’w helpu yn ystod y cyfnod anodd yma.  darllen mwy

Ditectif benywaidd yn cael y lle blaenaf mewn nofel gan gyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn

Ditectif benywaidd yn cael y lle blaenaf mewn nofel gan gyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn

Mae nofelau ditectif wedi dod yn gynyddol boblogaidd yn y Gymraeg yn ddiweddar, gyda nifer o gyfresi llwyddiannu gan awduron fel Alun Davies ac John Alwyn Griffiths yn llwyddo. Dynion sydd wedi bod amlycaf yn y cyfresi yma, ond mewn llyfr newydd gan yr awdur amryddawn Jon Gower, Y Dial, mae’r ditectif Emma Freeman yn cael y lle blaenaf. Partner i Tom Tom yw Emma, oedd yn ymwneud ag achos tywyll yn nofel ddiwethaf Jon Gower o’r enw Y Düwch a gyhoeddwyd yn 2018.  darllen mwy

Cyflwyno llyfr i un o gymwynaswyr mawr byd athroniaeth yng Nghymru

Cyflwyno llyfr i un o gymwynaswyr mawr byd athroniaeth yng Nghymru

Gyda gwerthoedd rhyddfrydol o dan fygythiad mewn sawl rhan o’r gorllewin – o Brydain i America – mae’n anodd meddwl am bwnc athronyddol mwy cyfoes a pherthnasol i’w drafod mewn cyfrol. Prif ffocws Rheswm a Rhyddid, cyfrol newydd wedi’i olygu gan E. Gwynn Matthews, yw ymateb i’r Ymoleuad, y chwyldro syniadaethol a osododd sail ar gyfer gwerthoedd a gwleidyddiaeth y cyfnod modern ac sy’n sylfaen ddamcaniaethol i’r wladwriaeth ryddfrydol  darllen mwy

Llyfr digidol Rwdlan y Cyfnod Clo yn cael ei gyhoeddi fel llyfr

Llyfr digidol Rwdlan y Cyfnod Clo yn cael ei gyhoeddi fel llyfr

Mae’r awdures Angharad Tomos yn cyhoeddi llyfr newydd yng Nghyfres Rwdlan yr wythnos hon, sef Pawennau Mursen. Cyflwynwyd y llyfr yn ddigidol yn wreiddiol, ar ddechrau’r cyfnod clo adeg y coronafeirws, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Llyfrau Plant (2 Ebrill). Ond bellach mae’r Lolfa wedi penderfynu cyhoeddi llyfr print o Pawennau Mursen – y cyntaf yn y gyfres i gael ei gyhoeddi ers wyth mlynedd.  darllen mwy

Llyfr lliwio newydd Cadi i ddiddanu plant!

Llyfr lliwio newydd Cadi i ddiddanu plant!

Mae Cadi, y ferch fach annwyl a busneslyd, a seren Cyfers Cadi gan yr awdures Bethan Gwanas, yn ôl – a’r tro yma, mae modd i blant liwio ei hanturiaethau eu hunain! Mae Llyfr Lliwio Cadi yn gasgliad hyfryd o luniau tylwyth teg a deinosoriaid, creaduriaid y môr a'r Celtiaid, sef y bydoedd mae Cadi wedi ymweld â nhw ym mhedwar llyfr cyntaf y gyfres.  darllen mwy

Llythyrau dadlennol newydd yn arwain at drysor o gyfrol am Caradog Prichard
201-220 o 485 1 . . . 10 11 12 . . . 25
Cyntaf < > Olaf