Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Erthyglau

Neges bwysig o ddathlu amrywiaeth yng nghyfres Cyw

Neges bwysig o ddathlu amrywiaeth yng nghyfres Cyw

Mae Bolgi a’r Ŵyn Bach, sef y llyfr nesaf yng nghyfres poblogaidd Cyw gan Anni Llŷn, yn dilyn un o ffrindiau gorau Cyw wrth iddo edrych ar ôl oen bach Guto’r Ffermwr. Mae ynddi neges bwysig am gydraddoldeb, dathlu amrywiaeth, a thrin pawb yr un peth.  darllen mwy

“Cryno, heriol, cyraeddadwy!” – cyfrol amserol yn rhannu syniadau iwtopaidd ar y Gymru Fydd
Trist oedd clywed am farwolaeth Hywel Francis
Poster newydd i hyrwyddo pwysigrwydd cadw enwau lleoedd Cymraeg
Ar Grwydir Eto - portreadau o gymeriadau lliwgar cefn gwlad y gorffennol
Cyfrol hanfodol i bobl Cymru

Cyfrol hanfodol i bobl Cymru

Wedi llwyddiant y podlediad poblogaidd, Dim Rŵan na Nawr cyhoeddir cyfrol gan wasg y Lolfa sy’n dod â’r podlediad rhwng dau glawr - Dim Rŵan na Nawr: Hanes Cymru Drwy’r Oesoedd.  darllen mwy

Cyfrol gyntaf Fflur Dafydd ers 10 mlynedd

Cyfrol gyntaf Fflur Dafydd ers 10 mlynedd

Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr cyntaf Fflur Dafydd yn y Gymraeg ers deng mlynedd. Mae Lloerganiadau yn gyfrol o atgofion personol am blentyndod ac arddegau yr awdures yn ardal Ceredigion dan olau’r lloer, ei chyfrol Gymraeg gyntaf ers cyhoeddi Awr y Locustiaid yn 2010. Datblygwyd ei nofel Y Llyfrgell (2009) fel ffilm boblogaidd yn 2016.  darllen mwy

Nofel gyntaf gan Manon Steffan Ros ers Llyfr Glas Nebo

Nofel gyntaf gan Manon Steffan Ros ers Llyfr Glas Nebo

Enillodd stori Rowena, Siôn a Dwynwen galonnau’r Cymry, yn ogystal â’r Fedal Ryddiaith yn 2018 a Llyfr y Flwyddyn 2019. Dyma nofel gyntaf Manon Steffan Ros ers y corwynt a’r canmol a ddilynodd cyhoeddi Llyfr Glas Nebo. Mae Llechi yn nofel i oedolion ifanc ac yn stori emosiynol, gignoeth yn llawn dirgel sy’n mynd tu hwnt i ffug-barchusrwydd ac yn portreadu byd gwyllt, amherffaith pobl ifanc.  darllen mwy

Boc ac ar goll unwaith eto mewn llyfr newydd gan Huw Aaron

Boc ac ar goll unwaith eto mewn llyfr newydd gan Huw Aaron

Mae Ble Mae Boc?: Ar Goll yn y Chwedlau yn cynnwys 10 llun tudalen ddwbl, gyda phob taenlen yn dangos golygfa newydd sbon, gan gynnwys Y Mabinogi, Cantre’r Gwaelod, Pentref yr Hwiangerddi, Teyrnas y Tylwyth Teg, Yr Helfa Fawr, Ynys yr Ifanc, Sw Angenfilod, Arswyd Annwn, Cwm y Cewri a Pharti Llyfrau Plant. Y nod unwaith eto yw dod o hyd i Boc sy’n cuddio ym mhob llun, ac mae hefyd dros 200 o bethau eraill i’w darganfod. Mae oriau o hwyl a chraffu i hyd yn oed y ddraig-chwiliwr gorau.  darllen mwy

Nofel ddoniol a thorcalonnus, a chipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc

Nofel ddoniol a thorcalonnus, a chipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc

“Y nofel orau, fwyaf pwerus i mi ei darllen ers blynyddoedd. Mae’n ysgytwol.” Dyma eiriau Manon Steffan Ros am nofel gyntaf yr awdures ifanc o Ddyffryn Nantlle, Megan Angharad Hunter. Mae tu ôl i’r awyr yn nofel ddoniol a thorcalonnus sy’n cynnig cipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc na welwyd ei debyg mewn print yn y Gymraeg o’r blaen.  darllen mwy

Cyhoeddi nofel 'milenial' gyntaf y Gymraeg

Cyhoeddi nofel 'milenial' gyntaf y Gymraeg

Mae’r awdures Llio Maddocks yn ystyried ei nofel newydd fel y nofel milenial gyntaf i’w chyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Mae’r nofel Twll Bach yn y Niwl yn nofel ysgafn am dyfu lan ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain ac yn rhoi byd olwg unigryw ar fod yn Gymraes yn y cyfnod cythryblus yma.  darllen mwy

Llwyd Owen yn 'Rhedeg i Parys' mewn antur gyffrous ar hyd Cymru

Llwyd Owen yn 'Rhedeg i Parys' mewn antur gyffrous ar hyd Cymru

“Cyffrous, igam ogam a chariadus” – dyna sut mae’r awdur Llwyd Owen yn disgrifio’i nofel newydd Rhedeg i Parys. Mae’r antur gyffrous yn mynd â’r darllenydd ar daith ar hyd Cymru, ac yn ôl i fyd tywyll y dref ddychmygol Gerddi Hwyan, ac mae nifer o enwau cyfarwydd o’r nofelau blaenorol yn ymddangos yn y stori. Y darpar dditectif Sally Morris yw seren Rhedeg i Parys, ac mae’r stori hon yn troi o amgylch ei hymdrech i i ddod o hyd i fenyw ifanc sydd ar goll ers iddi redeg i ffwrdd gyda’i chariad.  darllen mwy

Llyfr newydd i ddathlu'r daith i annibyniaeth

Llyfr newydd i ddathlu'r daith i annibyniaeth

Cyhoeddir cyfrol amserol sy’n crynhoi’r daith i annibyniaeth i Gymru. Mae Annibyniaeth / Independence gan Mari Emlyn yn gyfrol ddwyieithog sy’n canolbwyntio’n bennaf ar y pedair blynedd diwethaf, rhwng 2016 a 2020.  darllen mwy

MI5, Boris Johnson a'r 'Elfyn Marbles': Hunangofiant 'sy'n siwr o bechu' gan Elfyn Llwyd
O'r Gwlân i'r Gân - hunangofiant Aled Wyn Davies

O'r Gwlân i'r Gân - hunangofiant Aled Wyn Davies

“Mae’n deimlad arbennig cael dweud fy stori mewn cyfrol fel hon – rhywbeth na feddyliais i fyth y bydden i’n ei wneud yn 46 blwydd oed. Ond wedi blynyddoedd o gystadlu mewn gwahanol feysydd a chael profiadau lu wrth deithio’r byd, roedd o’n amser delfrydol i gofnodi f’atgofion cyn i mi eu hanghofio!” Aled Wyn Davies.  darllen mwy

'Cofiwch y gwenyn' - neges llyfr newydd i blant

'Cofiwch y gwenyn' - neges llyfr newydd i blant

Mae llyfr newydd yn gweld awdures newydd Carys Glyn ac artist o fri Ruth Jên yn cydweithio i gyfuno rhai o anifeiliaid y Mabinogi a’r broblem gyfoes o wenyn yn diflannu i greu antur gyda neges newydd sbon i blant - Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll.  darllen mwy

Calendr Clo-rona 2021: Cantorion noeth yn codi arian at achos da
181-200 o 485 1 . . . 9 10 11 . . . 25
Cyntaf < > Olaf