Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Erthyglau

Nofel newydd Llwyd Owen yn

Nofel newydd Llwyd Owen yn "gampwaith"

Disgrifir y nofel olaf yn nhrioleg Llwyd Owen fel “campwaith” gan Manon Steffan Ros. Dywedodd yr awdur “darllenais drwy fy mysedd. O’n i methu rhoi hi lawr”. Mae Helfa (Y Lolfa), yn nofel ddirgelwch garlamus sy’n dod â stori’r Ditectif Sally Morris i ben mewn ffordd ddramatig iawn.  darllen mwy

Yr Osian Roberts arall...

Yr Osian Roberts arall...

Nid yr Osian Roberts fu’n hyfforddi tîm pêl-droed Cymru yw’r unig un talentog i ddod o Ynys Môn. Dyna hefyd enw artist ifanc addawol o Lannerch-y-medd sydd wedi arlunio un o lyfrau dysgu Cymraeg mwyaf poblogaidd Y Lolfa, sef Welcome to Welsh. Ac mae hefyd yn ddilynwr brwd i dîm pêl-droed Cymru!  darllen mwy

Cyhoeddi argraffiad newydd sbon o gwrs poblogaidd i ddysgwyr Cymraeg
Dyddiad postio olaf cyn Nadolig 2023
Gareth yr Orangutan yn cyhoeddi llyfr

Gareth yr Orangutan yn cyhoeddi llyfr

Yn dilyn gyrfa lwyddiannus ar S4C, mae orangutang mwyaf enwog Cymru, Gareth ar fin cyhoeddi hunangofiant sy’n rhannu straeon personol a gonest am bethau pwysig yn ei fywyd fel ei gariad at chips, nain Deiniolen a thor-calon.  darllen mwy

Iwcs yn cyhoeddi ei ail nofel - Dal Arni
Cymru Gudd trwy lun a stori

Cymru Gudd trwy lun a stori

Yn ei lyfr newydd, Cymru Gudd, mae’r ffotograffydd tirluniau Dylan Arnold yn dod â lluniau trawiadol o adfeilion Cymreig yn fyw trwy rannu hanes yr adeiladau, a’r teuluoedd oedd yn byw ynddynt.  darllen mwy

Llyfr coginio newydd yn dathlu bwyd ffres o'r ardd
Nofel gyntaf

Nofel gyntaf "hudolus" Daf James yn cynnig traddodiad Nadoligaidd newydd i blant

Yr wythnos hon cyhoeddir nofel gyntaf y dramodydd, y cyfansoddwr, y sgriptiwr a’r perfformiwr – Daf James. Mae Jac a’r Angel (Y Lolfa) yn stori Nadoligaidd a ddisgrifiwyd gan Non Parry fel nofel “hudolus, cyffrous, doniol a charedig. Mae’r byd angen y stori yma. Rhowch o ar y cwricwlwm AR UNWAITH! ” Pedair pennod ar hugain sydd yn y llyfr hwn – pennod ar gyfer pob noson ym mis Rhagfyr tan Noswyl Nadolig yn debyg i galendr adfent.  darllen mwy

Cyhoeddi hanes Siân Phillips, y seren fyd-enwog o Waun Cae Gurwen
Codi'r llen ar Hiwmor Tri Chardi

Codi'r llen ar Hiwmor Tri Chardi

Mae cyfrol newydd, Hiwmor Tri Chardi Llengar, yn codi’r llen ar dri Chardi amlwg oedd yn ffrindiau pennaf – William Morgan (Moc) Rogers, Tegwyn Jones a Hywel Teifi Edwards.  darllen mwy

Nofel feiddgar newydd i'r arddegwyr gan Megan Angharad Hunter
Llyfr i ferched ifanc sy'n torri tir newydd

Llyfr i ferched ifanc sy'n torri tir newydd

Mae tyfu i fyny a chael pen ffordd yn eich arddegau wedi bod yn heriol erioed. Yr wythnos hon, cyhoeddir llyfr gwybodaeth wreiddiol i ferched 8 i 12 oed – y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg – sy’n anelu at ateb rhai o’r cwestiynau bythol sy’n codi yn ystod yr arddegau.  darllen mwy

Myfyrdodau onest, cynnes a real ar groesi sawl trothwy mewn bywyd
1-20 o 482 1 2 3 4 5 . . . 25
Cyntaf < > Olaf