Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ymchwilydd ifanc yn datgelu cyfrinachau diwydiant mwyn canolbarth Cymru

Mae diwydiant glo de Cymru yn adnabyddus ledled y byd, a diwydiant llechi gogledd Cymru yn cael ei gydnabod drwy’r Amgueddfa Lechi, gyda chyhoeddiadau niferus yn adrodd yr hanes. Ond beth am ddiwydiant coll mwyngloddio canolbarth Cymru? Mae Ioan Lord, awdur llyfr dwyieithog O’r Ddaear Fyddar Faith: Mwyn o Ganolbarth Cymru, yn gobeithio dod â hanes a phwysigrwydd y diwydiant a’r gymdeithas i’r amlwg drwy ei ddisgrifiadau coeth a’i luniau newydd sbon o dan ddaear.

“Mae'r ffaith bod cyn lleied o bobl leol a chenedlaethol yn ymwybodol o’r diwydiant mwyngloddio yng nghanolbarth Cymru yn un o’r prif resymau y tu ôl i ysgrifennu’r llyfr yma,” meddai Ioan Lord. “Gobeithiaf y bydd yn arwain at fwy o amddiffyn a diogelu safleoedd. Mae cymaint o’r hen safleoedd mwyngloddio wedi cael eu difetha a’u tirlunio dros y blynyddoedd, felly mae’n bwysig ceisio arbed yr olion sydd ar ôl. Wedi’r cyfan, maent yn gofebion i gannoedd o ddynion, menywod a phlant a arferai lafurio yn y llefydd hyn hyd at 4,000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae parhau i ddinistrio’r olion yn sarhad i’w hatgofion a’u bywydau.”

 

Mae O’r Ddaear Fyddar Faith: Mwyn o Ganolbarth Cymru yn nodi’n gryno hanes diwydiant mwyngloddio’r canolbarth a’i rôl yn natblygiad diwydiant metel Prydain. Adroddir hanes y diwydiant, y bobl, y gymdeithas a’r amodau gwaith drwy luniau a diagramau archifol a modern. Mae’r llyfr yn cynnwys lluniau o olygfeydd trawiadol o dan ddaear sydd heb eu gweld o’r blaen, gydag arteffactau, offer a deunydd gwreiddiol.

 

“Wrth ymchwilio, y profiad mwyaf anhygoel i mi oedd darllen atgofion un o fwynwyr olaf canolbarth Cymru, a gofnodwyd ar lafar ar ffurf tâp yn y 1970au. Yn dilyn hyn, mi es i a fy ffrindiau i geisio canfod ei hen weithle, gan ei fod wedi sôn amdano ar y tapiau. Llwyddom i balu drwy gwymp enfawr wrth y fynedfa er mwyn cael mynediad, y tro cyntaf i unrhyw un fod yna ers dros ganrif. Roedd yr holl offer yn dal yno; hetiau, esgidiau, pibau tybaco a hyd yn oed blychau tocyn, offer ac olion eu traed yn y mwd ar lawr. Roedd cysylltu’r pethau hyn gyda’r hen fwynwr yn brofiad iasol,” meddai Ioan am ei waith.

 

Creda Ioan mai cyfuniad o’i gwymp cynnar (1870au–1910au) ac o’r boblogaeth weddol fach a weithiodd yn y diwydiant sy’n bennaf gyfrifol am y ffaith fod yr hanes wedi cael ei golli.

 

“Pan gaewyd y gweithfeydd mwyn, symudodd y mwyafrif i weithio yn y pyllau glo yn ne Cymru. Ond pan gaewyd y pyllau glo, ynghyd â’r ffaith ei fod yn fwy diweddar ac felly roedd y boblogaeth yn llawer mwy, nid oedd gwaith arall i’r gweithwyr symud iddo. Ac felly anghofiwyd am ddiwydiant mwyn canolbarth Cymru. Cyn y chwyldro diwydiannol roedd diwydiant mwyn canolbarth Cymru yn adnabyddus ar draws Prydain. Dyma un o’r diwydiannau cyntaf i gau oherwydd mewnforion rhad o dramor, ond gan fod diwydiannau mwy o’i amgylch yn dal i ffynnu (glo, llechi) fe lithrodd ymaith yn dawel.”

Dyma’r llyfr cyntaf i gynnwys ystod mor eang o luniau dan ddaear newydd sbon, gan gofnodi’r holl lefydd ‘newydd eu darganfod’ sydd heb gael eu gweld ers dros ganrif. Tynnwyd nifer o’r lluniau tanddaearol sydd yn y llyfr ar ôl wythnosau o balu a chwilio gofalus, er mwyn cael mynediad at y capsiwlau amser hyn, gyda’r offer wedi’u gadael yn y fan gan bobl yr oes o’r blaen, a mwy aml na pheidio lle nad oes yr un enaid wedi’u gweld ers iddynt adael.