Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ydi pobl yn perthyn i ddarn o dir? Nofel gyfoes sy'n codi cwestiynau am Gymru, y Gymraeg a chenedlaetholdeb

Pwy fydden ni heb gyfyngiadau cymdeithas? Ydi pobl yn perthyn i ddarn o dir? Ydi cenedl heb iaith wir yn genedl heb galon? Dyna rai o’r cwestiynau mae Cwlwm gan Ffion Enlli, a gyhoeddir gan wasg y Lolfa, yn eu gofyn.

 

Yn ogystal â rhedeg Caffi Siop Plas yn Plas Carmel, Anelog, mae Ffion Enlli wedi bod yn brysur dros y flwyddyn ddiwethaf yn sgwennu ei nofel gyntaf sy’n dilyn bywyd Lydia Ifan wrth iddi straffaglu trwy ei hugeiniau yn Llundain. Mae byw yn un o ddinasoedd mwyaf y byd yn peri i Lydia ddechrau gofyn cwestiynau. Wrth iddi chwilio am yr atebion, mae hi’n colli gafael ar y person oedd hi’n feddwl oedd hi.

Dyma nofel am gymhlethdodau hunaniaeth Gymreig – am wreiddiau a gollwng gafael, am berthyn a bod ar goll. Yng ngeiriau Casi Wyn: ‘Dyma nofel bwysig sy’n saff o dynhau a llacio clymau hunaniaeth pob un ohonom.’

Meddai’r awdur: ‘I mi, mae ’na gariad dwfn, pwerus – weithiau dall – tuag at wlad a darn o dir pan mae hi’n dod at gael eich magu mewn cenedl leiafrifol. Mae ’na deimlad amhrisiadwy o berthyn ac o bwrpas ond mae ’na hefyd deimlad fod rhaid brwydro. Wedi mynd i ffwrdd, mae ’na wastad lais yng nghefn meddwl rhywun yn eu tynnu yn ôl. Roeddwn i eisiau’r cyfleu’r teimladau hyn mewn cyd-destun dinesig, yn defnyddio cymeriadau o wahanol wledydd a chefndiroedd. Nid yn unig er mwyn chwarae efo’r cyferbyniad rhwng y ddau fyd – ond hefyd i ddangos y cymhlethdodau a’r ecstasi sy’n bodoli yn y ddau.

Dwi eisiau i’r nofel hon agor meddyliau a gofyn cwestiynau, nid cynnig atebion. Cychwyn sgyrsiau gonest am genedlaetholdeb, rhywiaeth a rhywioldeb – a sut mae hyn yn clymu i mewn i’n ffordd ni o fyw fel Cymry yn yr unfed ganrif ar hugain.’

Cafodd Ffion Enlli ei magu yn Aberdaron ym mhen draw Llŷn. Bu’n byw, astudio a gweithio ym Mharis, Perpignan, Surrey a Llundain. Er bod darn o’i chalon yn dal dros y dŵr yn Ffrainc, hap a damwain a phandemig ddaeth â hi’n ôl i fro ei mebyd yn llawer cynt nag oedd hi wedi’i fwriadu. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi bod yn rhedeg caffi fel rhan o brosiect cymunedol Plas Carmel yn Anelog.

Mae Cwlwm gan Ffion Enlli ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa).