Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Y Wal Goch – Cymru, Qatar a Chwpan y Byd

Wrth i ni fyw drwy oes aur i bêl-droed Cymru, mae’r gyfrol newydd hon yn rhoi sylw i un o elfennau amlycaf y llwyddiant diweddar, sef y cefnogwyr. Mewn casgliad amrywiol o ysgrifau a cherddi cawn glywed gan 18 cyfrannwr, o enwau adnabyddus fel Gwennan Harries, Dafydd Iwan a Bryn Law, i rai o’r cefnogwyr pybyr sydd wedi bod yn dyst i’r cyfan, a rhai o leisiau newydd y Wal Goch enwog. Mae’r gyfrol, Y Wal Goch: Ar Ben y Byd gan Ffion Eluned Owen (gol.), hefyd yn cynnwys dyfyniadau a lluniau gan aelodau’r Wal o bob cwr o Gymru.

Rhwng y cloriau cawn flas ar hanesion dilyn y tîm i bedwar ban; cip ar y caneuon, yr hwyl a’r ffasiwn; a golwg arbennig ar y twf mewn balchder tuag at Gymreictod a’r Gymraeg. Fe archwilir emosiwn, effaith a dylanwad dilyn y tîm pêl-droed cenedlaethol, a gwelwn sut mae’r Wal Goch wedi dod i gynrychioli’r Gymru gyfoes. Dyma gyfrol i’ch diddori a’ch ysbrydoli wrth i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Ceir cyfraniadau gan Greg Caine, Garmon Ceiro, Iolo Cheung, David Collins, Tommie Collins, Rhian Angharad Davies, Meilyr Emrys, Annes Glynn, Gwennan Harries, Rhys Iorwerth, Dafydd Iwan, Llion Jones, Bryn Law, Sarah McCreadie, Penny Miles, Sage Todz ft. Marino a Fez Watkins.

Meddai’r golygydd, Ffion Eluned Owen:

‘Mae’r wefr o fod yn aelod o’r Wal Goch yn gyfuniad unigryw o bêl-droed, Cymreictod a chyfeillgarwch. Mae ’na ystod eang o brofiadau sy’n haeddu cael eu cloriannu a’u cofnodi; a llond stadiwm o straeon sy’n haeddu cael eu clywed a’u cofio.

Dyma gyfrol am y Wal Goch, gan y Wal Goch, ar gyfer aelodau’r Wal – ddoe, heddiw ac yfory. Doedd pethau ddim yn arfer bod fel hyn wrth gwrs, ac mae cyfle rhwng y cloriau i hel atgofion am siwrne cefnogwyr Cymru ar hyd y blynyddoedd, wrth i ni gyrraedd penllanw’r cyfan ar y llwyfan chwaraeon mwyaf un yn Qatar.

‘’Dan ni i gyd yn dilyn Cymru’n bennaf i fod yn dyst i’r llawenydd a’r siomedigaethau ar y meysydd pêl-droed ond mae cyfraniadau’r gyfrol hon yn profi bod cymaint mwy na hynny sy’n ein hudo ni’n ôl, gêm ar ôl gêm, taith ar ôl taith. Mae hi wedi bod yn bleser casglu’r cyfan ynghyd, a dwi’n gobeithio’n fawr y bydd pobl yn mwynhau’r holl straeon, yr angerdd, a’r hwyl.’

Mae Ffion Eluned Owen yn un o aelodau selog y Wal Goch. Mae hi wedi dilyn Cymru o Stockholm i Baku ac o China i Albania a bydd yn mynd i Qatar. Mae i’w gweld a’i chlywed ar y cyfryngau yn gyson yn trafod hynt a helynt y tîm pêl-droed cenedlaethol. Mae ganddi PhD mewn astudiaeth o ddiwylliant llenyddol Dyffryn Nantlle ac mae’n gweithio i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae Y Wal Goch: Ar Ben y Byd gan Ffion Eluned Owen (gol.) ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).